Neidio i'r prif gynnwys
Rydym yn defnyddio cwcis i wella profiad y defnyddiwr, a dadansoddi traffig gwefan. Am y rhesymau hyn, efallai y byddwn yn rhannu eich data defnydd gwefan gyda'n partneriaid dadansoddeg. Trwy glicio “Derbyn Cwcis,” rydych yn cydsynio i storio ar eich dyfais yr holl dechnolegau a ddisgrifir yn ein Polisi Cwcis. Darllenwch ein Telerau ac Amodau a'n Polisi Preifatrwydd i gael manylion llawn.
Derbyn Cwcis
Analluogi cwcis
Dewislen
English
Amdanom Ni
Cysylltiadau Defnyddiol
Penodedigion
Porth
search
home
search
navigate_next
Cymwysterau
navigate_next
Datblygu Proffesiynol
navigate_next
Gweinyddu
navigate_next
Cefnogaeth i Fyfyrwyr
Hafan
chevron_right
Arholiadau Haf 2023: Popeth y mae angen i chi wybod
chevron_right
Cwestiynau Cyffredin: Arholiadau Haf 2023
Arholiadau Haf 2023: Popeth y mae angen i chi wybod
{"grandParentLink":null,"parentLink":{"linkText":"Arholiadau Haf 2023: Popeth y mae angen i chi wybod","url":"/home/arholiadau-haf-2023-popeth-y-mae-angen-i-chi-wybod/"},"currentLink":{"linkText":"Cwestiynau Cyffredin: Arholiadau Haf 2023","url":"/home/arholiadau-haf-2023-popeth-y-mae-angen-i-chi-wybod/cwestiynau-cyffredin-arholiadau-haf-2023/"},"childrenLinks":[{"linkText":"Crynodebau o Wybodaeth Ymlaen Llaw","url":"/home/arholiadau-haf-2023-popeth-y-mae-angen-i-chi-wybod/crynodebau-o-wybodaeth-ymlaen-llaw/"},{"linkText":"Cwestiynau Cyffredin: Arholiadau Haf 2023","url":"/home/arholiadau-haf-2023-popeth-y-mae-angen-i-chi-wybod/cwestiynau-cyffredin-arholiadau-haf-2023/"},{"linkText":"Cefnogi Cymwysterau/Dyddiadau Allweddol Cymwysterau Lefel 3 Cymhwysol","url":"/home/arholiadau-haf-2023-popeth-y-mae-angen-i-chi-wybod/cefnogi-cymwysterau-dyddiadau-allweddol-cymwysterau-lefel-3-cymhwysol/"},{"linkText":"Lefel 3 Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio Cefnogaeth/Dyddiadau Allweddol","url":"/home/arholiadau-haf-2023-popeth-y-mae-angen-i-chi-wybod/lefel-3-diploma-sylfaen-mewn-celf-a-dylunio-cefnogaeth-dyddiadau-allweddol/"}],"lowerChildrenLinks":[]}
Llywio
Crynodebau o Wybodaeth Ymlaen Llaw
- Cwestiynau Cyffredin: Arholiadau Haf 2023
Cefnogi Cymwysterau/Dyddiadau Allweddol Cymwysterau Lefel 3 Cymhwysol
Lefel 3 Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio Cefnogaeth/Dyddiadau Allweddol
Cwestiynau Cyffredin: Arholiadau Haf 2023
{"accordionHeading":"","accordionItems":[{"accordionTitle":"Sut bydd myfyrwyr yn cael eu graddio?","accordionTitleSecondary":null,"accordionImage":"","accordionContent":"
"},{"accordionTitle":"Beth yw gwybodaeth ymlaen llaw?","accordionTitleSecondary":null,"accordionImage":"","accordionContent":"
Mae gwybodaeth ymlaen llaw yn dweud wrthych beth yw ffocws rhai o'r cwestiynau yn yr arholiad; er enghraifft, mae'n bosibl y bydd yn amlinellu rhywfaint o gynnwys, testunau, themâu, a sgiliau fydd yn cael eu hasesu yn arholiadau haf 2023.
\n
Bydd hyn yn amrywio o bwnc i bwnc, ond bwriad hyn yw eich helpu chi â'ch gwaith adolygu.
"},{"accordionTitle":"Beth yw pwrpas gwybodaeth ymlaen llaw?","accordionTitleSecondary":null,"accordionImage":"","accordionContent":"
Pwrpas gwybodaeth ymlaen llaw yw cefnogi eich gwaith adolygu a'ch helpu chi i baratoi at eich arholiadau.
"},{"accordionTitle":"Pam mae’r wybodaeth ymlaen llaw wedi'i hanelu at gwestiynau tariff uwch yn unig mewn rhai pynciau?","accordionTitleSecondary":null,"accordionImage":"","accordionContent":"
Mae tariff yn cyfeirio at nifer y marciau sydd ar gael am gwestiwn penodol. Mae cwestiynau sy'n gofyn am atebion mwy estynedig, fel traethodau, yn tueddu i fod yn gwestiynau tariff uwch.
\n
Mae gwybodaeth ymlaen llaw yn cael ei darparu i'ch helpu chi i wybod beth i roi blaenoriaeth iddo wrth adolygu, ond mae angen osgoi gallu rhagweld beth sydd mewn arholiadau o hyd, a'r posibilrwydd o allu adnabod cwestiynau ymlaen llaw.
\n
Mae ffocws y wybodaeth ymlaen llaw ar y cwestiynau tariff uwch yn bennaf. Dylai hynny felly roi'r hyder i chi i deimlo eich bod wedi adolygu'r testunau cywir ar gyfer y cwestiynau sy'n werth mwy o farciau. Hefyd, mae'n osgoi adolygu gormod ar feysydd sy'n rhoi dim ond ychydig bach o farciau. Fodd bynnag, dylech chi adolygu holl gynnwys y fanyleb o hyd.
"},{"accordionTitle":"Ydw i'n cael dod â'r wybodaeth ymlaen llaw i'r arholiad?","accordionTitleSecondary":null,"accordionImage":"","accordionContent":"
Pwrpas y wybodaeth ymlaen llaw yw eich helpu chi i flaenoriaethu eich adolygu. Nid cael ei defnyddio fel cymorth yn yr arholiad yw ei bwriad. Pe byddai'n cael ei defnyddio yn yr arholiad ei hun, gallai roi atebion neu ysgogiadau i chi i gwestiynau. Gallai hyn yn ei dro arwain at ganlyniadau annheg ac amharu ar ddilyniant.
"},{"accordionTitle":"A ddylwn i ganolbwyntio ar yr hyn sydd yn y wybodaeth ymlaen llaw yn unig?","accordionTitleSecondary":null,"accordionImage":"","accordionContent":"
Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd y wybodaeth ymlaen llaw yn ymdrin â phopeth sydd i'w asesu. Mae'n bosibl y bydd angen mwy o wybodaeth na'r hyn sydd yn y wybodaeth ymlaen llaw ar gyfer rhai cwestiynau yn yr arholiadau.
\n
Mewn llawer o achosion, bydd y wybodaeth ymlaen llaw yn rhoi testunau o'r cynnwys a fydd yn eich helpu chi i roi eich adolygu yn nhrefn blaenoriaeth - ond cofiwch, gallai cynnwys sydd ddim ar y rhestr gael ei asesu o hyd mewn cwestiynau eraill.
\n
I wneud yn siŵr eich bod yn perfformio orau y gallwch chi yn yr arholiadau, dylech adolygu holl gynnwys y cwrs.
"},{"accordionTitle":"Sut dylai gwybodaeth ymlaen llaw lywio'r ffordd yr wyf yn defnyddio cyn-bapurau wrth adolygu?","accordionTitleSecondary":null,"accordionImage":"","accordionContent":"
Y ffordd orau bob amser i baratoi ar gyfer llwyddiant mewn arholiad yw cael dealltwriaeth dda ac eang o holl gynnwys y fanyleb. Mae'n bwysig i chi gofio y gallai popeth rydych chi'n ei ddysgu mewn testun neu faes allweddol fod yn ddefnyddiol i chi.
\n
Bwriad y wybodaeth ymlaen llaw yw eich helpu i ganolbwyntio a blaenoriaethu eich adolygu. Er enghraifft, os yw'r wybodaeth ymlaen llaw ar gyfer pwnc penodol yn dweud y bydd yr arholiad yn canolbwyntio ar agweddau penodol o gynnwys y fanyleb, yna efallai y byddwch chi am roi blaenoriaeth i'r cynnwys hwnnw wrth i chi ddefnyddio cwestiynau o gyn-bapurau i adolygu.
\n
Fodd bynnag, i gefnogi eich dilyniant a'ch perfformiad gorau posibl yn eich arholiadau, gwnewch yn siŵr bod eich cynlluniau adolygu yn ystyried popeth sydd wedi'i addysgu i chi.
\n
Ni fydd gwybodaeth ymlaen llaw o reidrwydd yn ymdrin â phob agwedd ar gynnwys y fanyleb a fydd yn cael ei asesu yn arholiadau 2023, felly i wneud y defnydd gorau o gyn-bapurau bydd angen i chi ymarfer amrywiaeth eang o gwestiynau blaenorol.
"},{"accordionTitle":"Pam nad oes gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer y cymhwyster rwy'n ei astudio?","accordionTitleSecondary":null,"accordionImage":"","accordionContent":"
Mae gwybodaeth ymlaen llaw wedi'i darparu ar gyfer holl gymwysterau cyffredinol Cbac (er nad o reidrwydd ar gyfer pob uned o fewn pob cymhwyster), sydd wedi’u rheoleiddio gan cymwysterau cymru a phob cymhwyster galwedigaethol penodol i gymru sydd wedi’i reoleiddio gan Cymwysterau Cymru.
\n
Nid oes gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer cymwysterau cyffredinol Eduqas sy'n cael eu rheoleiddio gan Ofqual ac sydd wedi’u dynodi i'w defnyddio yng Nghymru. Y rheswm am hyn yw bod y llywodraeth a'r rheoleiddiwr yn Lloegr wedi penderfynu na fydd gwybodaeth o flaen llaw yn 2023.