Ysbrydoli'r Genhedlaeth Nesaf o Arloeswyr: Adfyfyrio ar Arddangosfa Arloesedd CBAC 2025
Roedd Arddangosfa Arloesoedd CBAC 2025 yn ddigwyddiad bywiog i ddathlu meddylfryd creadigol a thechnegol ledled Cymru. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd Caerdydd, lle ddaeth dysgwyr, addysgwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant at eu gilydd i gydnabod cyflawniadau rhagorol dylunwyr a thechnolegwyr ifanc.
Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae'r Gwobrau Arloesedd yn annog pobl ifanc i fod yn arloesol yn dechnegol ac yn tynnu sylw at rôl hanfodol Dylunio a Thechnoleg wrth lunio dyfodol Cymru.
Yn dilyn cyflwyniadau o safon eithriadol o uchel, wynebodd y panel o feirniad y dasg anodd o ddewis yr enillwyr. Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi bod y cyflwyniadau buddugol wedi cael eu dewis a byddant yn cael eu cyhoeddi'n ffurfiol mewn Seremoni Gyflwyno yn y Pierhead, Bae Caerdydd, ym mis Rhagfyr.
Rôl Hanfodol Dylunio a Thechnoleg yng Nghymru
Yn ystod y digwyddiad, cawsom gyfle i siarad â Jason Cates, Swyddog Pwnc CBAC ar gyfer Dylunio a Thechnoleg, a rannodd ei wybodaeth ar bwysigrwydd Dylunio a Thechnoleg i ddysgwyr yng Nghymru heddiw.
![]() |
"Mae Dylunio a Thechnoleg yn cynnig cyfle perffaith i ddatrys problemau ynghyd â Gwyddoniaeth, Technoleg a Mathemateg, ac mae'n caniatáu i ymgeiswyr ddefnyddio technoleg sy'n dod i'r amlwg i ddylunio, profi, modelu a chynhyrchu datrysiadau creadigol ac ysbrydoledig i gynhyrchion bywyd go iawn." |
Mae ymateb Jason yn tynnu sylw at natur ryngddisgyblaethol Dylunio a Thechnoleg - pwnc sydd nid yn unig yn adeiladu sgiliau ymarferol, ond hefyd yn datblygu hyder creadigol, gwytnwch ac arloesedd. Mewn oes lle mae technoleg yn parhau i drawsnewid sut rydym yn byw ac yn gweithio, mae Dylunio a Thechnoleg yn rhoi'r dulliau i ddysgwyr feddwl yn feirniadol, gweithredu'n gynaliadwy, a chael effaith wirioneddol ar eu cymunedau a'r byd ehangach.
Edrych ymlaen: Cymhwyster TGAU Dylunio a Thechnoleg newydd (o fis Medi 2026)
Mae dyfodol Dylunio a Thechnoleg yng Nghymru yn un ddisglair, gyda datblygiadau cyffrous ar y gweill. O fis Medi 2026, bydd y cymhwyster TGAU Dylunio a Thechnoleg newydd yn cael ei gyflwyno, gan gynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddysgwyr archwilio meddylfryd dylunio ac arloesedd.
Eglurodd Jason:
"Bydd y cymhwyster TGAU newydd yn rhoi cyfle gwell i ddysgwyr fynd â’r meddylfryd dylunio a thechnegol i'r dyfodol. Mae'r drefn newydd o Asesiad Di-arholiad gwerth 70% ac arholiad gwerth 30% yn ail-gydbwyso'r cymhwyster TGAU newydd ac yn gwobrwyo’r broses dylunio a gwneud prototeipiau o ansawdd uchel. Mae'r llwybrau presennol - Dylunio Peirianyddol, Ffasiwn a Thecstilau, a Dylunio Cynnyrch - yn parhau i gael eu haddysgu dan y fanyleb newydd, gan ddarparu parhad a chysondeb i ganolfannau, athrawon a dysgwyr."
Mae'r diweddariad cyffrous hwn yn sicrhau bod creadigrwydd ymarferol yn parhau i fod wrth wraidd y cymhwyster, gan rymuso myfyrwyr i ddatblygu, profi a chynhyrchu dyluniadau ystyrlon sy'n mynd i'r afael â heriau yn y byd go iawn. Mae hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Cymru i feithrin arloesedd, cynaliadwyedd a rhagoriaeth dechnegol drwy addysg.
Dathlu Arloesedd a Chreadigrwydd yng Nghymru
Mae Arddangosfa Gwobrau Arloesedd CBAC yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo addysg Dylunio a Thechnoleg ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arloeswyr Cymru. Mae'r angerdd a'r sgil a ddangoswyd gan ymgeiswyr eleni yn pwysleisio cryfder Dylunio a Thechnoleg ar draws Cymru, a phwysigrwydd cefnogi dysgwyr i feddwl yn feiddgar a dylunio ar gyfer newid.
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran - ac yn enwedig i enillwyr y gwobrau arloesedd 2025, lle bydd eu gwaith yn cael ei ddatgelu’n swyddogol yn y Pierhead ym mis Rhagfyr.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld sut mae'r dylunwyr ifanc a thalentog hyn yn parhau i lunio dyfodol technoleg, creadigrwydd a dylunio yng Nghymru.
