Yn Arbennig i Gymru. Yn barod i'r byd: Adeiladu momentwm
Gobeithio bod y flwyddyn academaidd newydd yn mynd yn dda i chi a bod eich dysgwyr yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'n cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd. Rhywbeth a gyflawnwyd ar y cyd yw sicrhau bod y cymwysterau hyn ar waith erbyn hyn. Wrth i ni yn awr edrych tua'r dyfodol, rwyf wrth fy modd yn rhannu datblygiadau â chi a fydd yn ehangu ymhellach ar y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr ledled Cymru.
Mae'r cymwysterau Ton 1 yn cael eu haddysgu erbyn hyn, ac rydym yn deall bod parhau i gynnig cefnogaeth yn allweddol yn ystod y camau cyflwyno cynnar hyn. Eich anghenion chi yw'r flaenoriaeth i ni o hyd felly ac rydym yn parhau i gynnig cyfleoedd Dysgu Proffesiynol ychwanegol drwy gydol y flwyddyn academaidd, yn ogystal â'n gyfres o Adnoddau Digidol addasadwy rhad ac am ddim a chyngor arbenigol ein timau pwnc ymroddedig.
Y diweddaraf am Don 2
Mae'n bleser gennym gadarnhau bod manylebau Ail Don ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru wedi'u cymeradwyo i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026. Yn yr un modd â Thon 1, bwriedir y cymwysterau hyn i ymdrin â thirwedd addysgol unigryw Cymru a pharatoi dysgwyr ar gyfer heriau a chyfleoedd yn y dyfodol. Mae'r cymwysterau cymeradwy yn barod yn awr i'w lawrlwytho.
Fel cefnogaeth ar gyfer gweithredu'r cymwysterau hyn, rydym yn datblygu rhaglen gefnogi gyflawn. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys Dysgu Proffesiynol hyblyg ac Adnoddau digidol addasadwy rhad ac am ddim, a fwriedir i ffitio o gwmpas amserlenni prysur athrawon a darlithwyr a sicrhau bod pawb yn teimlo'n hyderus ac yn barod i addysgu am y tro cyntaf.
Edrych ymlaen: Datblygu Ton 3
Mae gwaith sylweddol yn mynd rhagddo eisoes i ddatblygu ein trydedd Don o gymwysterau Gwneud-i-Gymru. Mae'r portffolio amrywiol hwn yn cynnwys Tystysgrifau Galwedigaethol gyda ffocws ar ddiwydiant ar gyfer Addysg Uwchradd, Cyfres Sgiliau a chymhwyster Project Personol sy'n adeiladu ar lwyddiant ein Tystysgrif Her Sgiliau, ochr yn ochr â chymwysterau Sylfaen. Bydd ein cymwysterau Ton 3 yn adeiladu ar yr hyn a wnaed yn barod o ran cyd-awduro, rydym wedi ehangu ar ein partneriaethau â diwydiant, gan sicrhau bod y cymwysterau hyn o wir werth yn y farchnad ac yn meithrin cysylltiadau cryfach â'r byd gwaith.
Ymgysylltu â'r gymuned addysgol
Bu cyfnod yr hydref yn werthfawr iawn eleni wrth i ni fynd ati drwy ddeialog ystyrlon i wella ein cysylltiadau â chymuned addysgol Cymru. Ar ddechrau'r tymor cafwyd trafodaethau polisi pwysig — a chefais y fraint o gadeirio digwyddiad Fforwm Polisi Cymru ym mis Medi lle ymunodd Richard Harry, ein Cyfarwyddwr Gweithredol: Cymwysterau ac Asesu, â chyd-arbenigwyr i ystyried dyfodol cymwysterau galwedigaethol a sgiliau. Mae'r rhain yn sgyrsiau hanfodol, sy'n canolbwyntio ar ddylunio a chyfateb cymwysterau ag anghenion cyflogwyr, wrth i ni baratoi ar gyfer cymwysterau galwedigaethol newydd sydd i'w cyflwyno yn 2027. Ynghyd â'r trafodaethau hyn, rydym wedi bod yn cynnal gweithgareddau ychwanegol i ymgysylltu â'r gymuned addysgu. Mae'r rhain wedi cynnwys ein sesiwn ar y cyd â Cymwysterau Cymru ar asesu digidol ar gyfer ein cymwysterau newydd. Cyflwynwyd ail weminar gennym ar gyfer Uwch Arweinwyr ledled Cymru hefyd. Ei fwriad oedd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru ac esbonio pa gefnogaeth sydd ar gael.
Atgyfnerthwyd ein partneriaethau â'r sector hefyd drwy noddi'r Sioe Addysg Genedlaethol a Chynhadledd Flynyddol Colegau Cymru. Cawsom gyfle yn y digwyddiadau hyn i rannu ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru ac arddangos y gefnogaeth sydd ar gael gennym tra'n adeiladu perthnasoedd o fewn y sector ar yr un pryd.
Ar yr un pryd hefyd, dathlwyd y creadigrwydd anhygoel sy'n perthyn i ddysgwyr Cymru. Cynhaliwyd arddangosfeydd ein Gwobrau Arloesedd yng Nghaerdydd a Bangor. Mae'r safon a'r dyfeisgarwch sydd i'w gweld yn y digwyddiadau hyn yn wir ysbrydoli, ac rwy'n edrych ymlaen at ddathlu'r buddugwyr yn y seremoni wobrwyo ym mis Rhagfyr.
Cwrdd â'n hysgolion a cholegau
Mae croeso bob amser i aelodau ein cymuned addysg gynnal deialog gyda ni. Mae'r ymrwymiad yn parhau, ac yn rhan o hynny rwyf wedi trefnu ymweld ag ysgolion a cholegau ledled Cymru i glywed yn uniongyrchol gan athrawon, darlithwyr a dysgwyr am y profiadau maen nhw'n eu cael gyda'n cymwysterau ni. Y mis hwn, byddaf yn ymweld ag Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Glan Clwyd. Os hoffech chi drefnu ymweliad, yna gallwch gysylltu â mi drwy anfon neges at lorna.turner@cbac.co.uk.
Ar ran pawb yn CBAC, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth, ymroddiad, a phroffesiynoldeb parhaus. Gyda'n gilydd, mae dyfodol y byd addysg rydym yn ei lunio yng Nghymru yn un llawer mwy disglair.
Yn gywir,
Ian