Ymgeiswyr yn derbyn eu canlyniadau TGAU, Lefel 1/2 a Bagloriaeth Cymru 2025

Bydd myfyrwyr ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau cymwysterau TGAU, Lefel 1 / 2 a Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen heddiw. 

Canlyniadau TGAU Cymru 

  • Enillodd 19.5% o fyfyrwyr raddau A* - A (9-7)  
  • Enillodd 62.5% o fyfyrwyr raddau A* - C (9-4) 
  • Enillodd 96.9% o fyfyrwyr raddau A* - G (9-1) 

Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen 

  • Enillodd 98.0% o fyfyrwyr y Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen 
  • Llwyddodd 93.3% o ymgeiswyr yn y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen 

Dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: 

"Hoffwn longyfarch pob myfyriwr TGAU a galwedigaethol ar yr hyn a gyflawnwyd ganddynt heddiw. Mae'r canlyniadau hyn yn dystiolaeth o'u gwaith caled a dyfalbarhad drwy gydol eu hastudiaethau, a hoffem ddymuno'r gorau iddynt wrth iddynt symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant, neu gyflogaeth.

Mae ein diolch yn ddidwyll hefyd i'r athrawon, tiwtoriaid, a swyddogion arholiadau mewn ysgolion a cholegau ar draws y wlad am yr ymrwymiad ac ymroddiad ganddynt o ran sicrhau gweithrediad cyfres arholiadau eleni. Yn olaf, nid ydym wedi anghofio pa mor hanfodol yw rôl rhieni a gofalwyr wrth iddynt gefnogi dysgwyr i gyrraedd y garreg filltir hon." 


Ewch i'n tudalen gwe Diwrnod y Canlyniadau heddiw

Er mwyn cefnogi ymgeiswyr, athrawon a rhieni rydym wedi datblygu Tudalen Gwe Diwrnod y Canlyniadau bwrpasol. Ar y dudalen hon, fe welwch chi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi. Mae'n cynnwys manylion am Ffiniau Graddau, canllaw i'r broses apeliadau, a chysylltbwyntiau defnyddiol i gael cyngor ac arweiniad. 

 
Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau:

Jonathan Thomas
Rheolwr CC a Brand 
jonathan.thomas@cbac.co.uk  
029 2026 5102