Ydych chi am ymuno â ni yng Nghynhadledd NTFW 2026?
Ymunwch â'n timau pwnc yng Nghynhadledd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) 2026: Prentisiaethau: Llunio Sgiliau ar gyfer Cyfnod Newydd.
Bydd y gynhadledd eleni yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Mawrth 10 Mawrth a bydd yn canolbwyntio ar lunio dyfodol sgiliau yng Nghymru wrth i gam nesaf y Rhaglen Brentisiaethau agosáu.
Bydd y digwyddiad yn archwilio sut y gall darparwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid weithio ar y cyd i greu system fwy ystwyth, cynhwysol a pharod ar gyfer y dyfodol. Drwy gyfuniad o brif siaradwyr diddorol a gweithdai rhyngweithiol, bydd y cynrychiolwyr yn derbyn arweiniad ar destunau allweddol ac yn cael dealltwriaeth ymarferol ohonynt. Bydd y cyfranwyr eleni yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau blaenllaw fel Medr, Cymwysterau Cymru, Gyrfa Cymru ac Estyn. Mae'r digwyddiad hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio ag unigolion a sefydliadau o bob rhan o sector hyfforddi Cymru.
Fel rhan o'r gynhadledd, bydd ein timau'n arddangos ein hamrywiaeth o gymwysterau sy'n canolbwyntio ar y dyfodol sydd wedi'u creu mewn partneriaeth ag arbenigwyr addysg a diwydiant. Mae'r pecyn yn cynnwys cyfleoedd i ddysgwyr ar draws amrywiaeth o lefelau a dewisiadau ar gyfer dilyn cymwysterau sy'n seiliedig ar gredyd.
![]() |
Wrth sôn am ein presenoldeb, dywedodd Sasha Hallett, Rheolwr Datblygu Busnes: “Mae cynhadledd flynyddol NFTW bob amser yn uchafbwynt i ni, gan ddod ag addysgwyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd mewn un lle. Mae'n cynnig y llwyfan perffaith i arddangos ein hamrywiaeth eang o gymwysterau, wedi'u dylunio'n ofalus i ddatblygu sgiliau dysgwyr ar gyfer y gweithle, gan fagu hyder a chymwysedd. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chynrychiolwyr a rhannu sut mae cefnogaeth wedi'i deilwra CBAC yn helpu canolfannau i gyflwyno ein cymwysterau yn llwyddiannus” |
Mae cymwysterau yn ein cyfres yn cynnwys Sgiliau Hanfodol Cymru a Llwybrau at Gyflogaeth, gan sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau a'r wybodaeth i ddilyn pa bynnag lwybr y maent yn dewis ei ddilyn. Mae rhagor o wybodaeth am ein pecyn cyfan ar gael drwy www.cbac.co.uk/home/darganfod-eich-dyfodol-gyda-cbac.
I ymuno â'r sgwrs bwysig hon ac i gadw eich lle, ewch i wefan NTFW am ragor o wybodaeth a manylion.
