
Ydych chi am ymuno â ni yng Nghynhadledd Flynyddol ColegauCymru 2025?
Rydyn ni'n falch o noddi ac arddangos ein gwaith yng Nghynhadledd Flynyddol ColegauCymru eleni.
Pryd? 23 Hydref 2025
Ble? Stadiwm Dinas Caerdydd
Am y digwyddiad
Mae Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru yn dod â dros 200 o addysgwyr, arweinwyr diwydiant, a rhanddeiliaid allweddol o Gymru a thu hwnt at ei gilydd. Mae'n cynnig cyfle i ymuno â thrafodaethau panel diddorol, cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol, a chysylltu â chydweithwyr ar draws y sector.
Y thema eleni yw Twf, Cyfle a Thegwch, gan archwilio sut y gall addysg bellach wneud gwir wahaniaeth i ddysgwyr, cymunedau ac economi Cymru.
Cwrdd â'r tîm
Galwch heibio ein stondin i gyfarfod ein tîm cyfeillgar! Byddwn wrth law i ateb eich holl gwestiynau am ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd ac arddangos ein hamrywiaeth eang o adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM.
Rydym hefyd yn falch o gyflwyno'r gweithdy boreol, "Ymgysylltu â Dysgwyr mewn Diwylliant o Berthyn", wedi’i gadeirio gan Joe Baldwin, Dirprwy Bennaeth Coleg Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y sesiwn hon yn archwilio gwahanol safbwyntiau ar berthyn a sut y gallwn adeiladu diwylliant mwy teg, sy'n canolbwyntio ar y person ac yn adlewyrchu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Yn sôn am ein cyfranogiad dywedodd Nina Rees, Swyddog Datblygu Cymwysterau:
![]() |
"Rydyn ni'n falch o noddi ac arddangos yn y Gynhadledd eleni. Mae'n gyfle gwych i arddangos ein cymwysterau newydd sbon, yn ogystal â'r amrywiaeth eang o gefnogaeth ac adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM sydd ar gael i ysgolion a cholegau. Byddwn hefyd yn rhannu'r newyddion diweddaraf am ein cymwysterau Ton 3, gan gynnwys cymwysterau TAAU. Dewch i gwrdd â'n tîm, gofyn cwestiynau, a darganfod sut y gallwn gefnogi addysgu a dysgu ledled Cymru." |