Ydych chi am ymuno â ni yng Nghynhadledd Flynyddol ASCL Cymru 2025?

Rydym yn falch o noddi ac arddangos yng Nghynhadledd Flynyddol ASCL Cymru 2025 unwaith eto eleni. 

Pryd? 11 – 12 Rhagfyr 2025 

Ble? Gwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd 

 

Ynglŷn â'r digwyddiad 

Mae Datblygiad Proffesiynol ASCL yn brif ddarparwr DPP a datblygu arweinyddiaeth ar gyfer arweinwyr ysgolion, colegau ac ymddiriedolaethau a darpar uwch arweinwyr ledled y DU. Mae'r gynhadledd eleni yn canolbwyntio ar thema cyfleoedd mewn addysg. Mae addysg nid yn unig yn agor drysau ac yn datblygu hyder, ond mae hefyd yn sicrhau bod y myfyrwyr yn meddu ar y sgiliau a'r profiadau sy'n eu paratoi ar gyfer y dyfodol.  

 

Cwrdd â'r tîm 

Dewch draw i'n stondin i gyfarfod ein tîm cyfeillgar! Byddwn wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd ac i arddangos ein hamrywiaeth eang o adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM. 

Mae hefyd yn bleser gennym gyhoeddi y bydd Ian Morgan, ein Prif Weithredwr, yn ymuno â'r sesiwn banel 'Arholiadau a Llwyth Gwaith' am 4:40pm ar 11 Rhagfyr i rannu ei wybodaeth a'i brofiad gyda'r cynrychiolwyr. 

 

Wrth sôn am ein nawdd, dywedodd Ian Morgan:  

“Rydym yn falch iawn o barhau i gefnogi digwyddiad blaenllaw ASCL Cymru eleni. Mae'r gynhadledd yn cyflwyno amrywiaeth eang o siaradwyr ysbrydoledig a sesiynau rhyngweithiol ar amrywiaeth o destunau perthnasol i gynrychiolwyr. Mae ein tîm Datblygu Cymwysterau ac Adnoddau Digidol a minnau'n edrych ymlaen at gyfarfod y rhai sy'n mynychu a rhannu gwybodaeth am ein cyfres lawn o gymwysterau a'r gefnogaeth rydym yn ei chynnig.”