Ydych chi am ymuno â ni yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023?

Ydych chi am ymuno â ni yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023?

Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023.

Pryd? 29 Mai – 3 Mehefin 2023

Ble? Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin 
 
Ynglŷn â'r digwyddiad  

Gŵyl ieuenctid deithiol flynyddol yw Eisteddfod yr Urdd – digwyddiad hollbwysig yng nghalendr Cymru! Daw pobl o bob oed a chefndir at ei gilydd yn rhan o'r ŵyl fywiog hon i ddathlu pob agwedd ar y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru. Mae'n gyfle i arddangos amrywiaeth o gerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth a pherfformiadau. Caiff miloedd o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg eu denu i'r Eisteddfod bob blwyddyn. 

Eleni, cynhelir yr ŵyl yn Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, ac mae disgwyl i hyd at 90,000 o ymwelwyr ymgynnull yn y dref ar gyfer yr ŵyl wythnos o hyd. 
 
I ddysgu mwy ac i gadw eich lle, cliciwch yma.
 
Dyma oedd gan Jonathan Thomas, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand, i'w ddweud am ein rhan yn yr Eisteddfod:  

"Rydym yn falch iawn o gefnogi'r ŵyl fawreddog hon. Dyma gyfle gwych i ddathlu diwylliant ieuenctid, y gymuned addysg, a'r iaith Gymraeg. Edrychwn ymlaen at gyfarfod y sawl sy'n mynychu wyneb yn wyneb, a rhoi cefnogaeth ac arweiniad ychwanegol iddynt er mwyn cyflwyno ein pynciau yn hyderus." 
 
Cwrdd â'r tîm

Bydd ein tîm cyfeillgar wrth law yn ein stondin (stondin 11) i’ch cefnogi! Bydd aelodau o'n tîm Datblygu Cymwysterau ar gael i'ch tywys trwy ein dull cyd-awduro wrth ddatblygu ein cyfres newydd o gymwysterau TGAU diwygiedig, neu os oes gennych farn neu gwestiynau cychwynnol am ein cymhwyster Lefel 3 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd, bydd y tîm ar gael i gynorthwyo o ddydd Gwener i ddydd Sadwrn.  

Hyd yn oed os nad oes gennych chi gwestiynau, galwch heibio beth bynnag i ddweud 'helo' – gallwch roi seibiant i'ch traed yn ein 'Ardal Llesiant'. Yma bydd adnoddau rhad ac am ddim ar gael i gefnogi dysgwyr ag iechyd meddwl a llesiant – boed yn gyngor o ran sut i adolygu'n hyderus, neu'n weithgareddau hwyl ac ymwybyddiaeth ofalgar. Gallwch chi hefyd gymryd rhan mewn llu o gemau a chystadlaethau - bydd y 30 person cyntaf i ymweld â'n stondin a rhannu eu hawgrym adolygu gorau yn ennill potel ddŵr am ddim. Dewch i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig!  

Hei Mistar Urdd

Os hoffech chi dynnu hunlun gyda Mr Urdd ei hun (masgot enwog Urdd Gobaith Cymru), bydd yn ymweld â ni ar stondin 11 o 11yb ymlaen ddydd Mercher 31ain Mai a dydd Gwener 2ail o Fehefin! Cofiwch ddefnyddio'r hashnod #HunlunMistarUrdd.
 
 
Pob Lwc!  

Pob lwc i'r unigolion fydd yn cystadlu yn ystod wythnos yr Eisteddfod! Rydym yn sicr y bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 yn llwyddiant mawr ac yn wythnos i'w chofio! 
 
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch Twitter: @cbac_wjec  / Facebook: CBAC / WJEC / Instagram: @cbacifyfyrwyr