
Ydych chi am ymuno â ni yn Eisteddfod Genedlaethol 2025?
Ar ôl profiad llawn hwyl a gwerthfawr yn Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai, rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd gennym stondin arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol 2025!
Pryd? 2 – 9 Awst 2025
Ble? Wrecsam
Ynglŷn â’r Eisteddfod
Gŵyl ddiwylliannol fwyaf Cymru yw'r Eisteddfod Genedlaethol – mae’n ddathliad wythnos o’r iaith Gymraeg – yn gerddoriaeth, llenyddiaeth a’r celfyddydau. Cynhelir yr ŵyl yn flynyddol mewn lleoliadau gwahanol, ac eleni mae'n dychwelyd i Wrecsam am y tro cyntaf ers 2011. Gyda'r ŵyl yn disgwyl mwy na 160,000 o ymwelwyr, bydd yn ddigwyddiad cyffrous a bythgofiadwy.
Cwrdd â'r Tîm
Fe welwch chi ni yn ein stondin arddangos ar y Maes drwy gydol yr wythnos, a byddai ein tîm cyfeillgar wrth eu boddau'n cwrdd â chi! P'un a ydych chi'n addysgwr, yn ddysgwr, yn rhiant, neu fod arnoch awydd gwybod mwy, dewch i'n stondin er mwyn:
- Dysgu mwy am ein cymwysterau
- Dod i wybod mwy am ein hamrywiaeth heb ei hail o adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM
- Cymryd rhan mewn gemau a chystadlaethau – gyda chyfleoedd i ennill!
Byddwn yna i ateb eich cwestiynau, rhannu syniadau, a dathlu addysg a diwylliant Cymru gyda chi.
Peidiwch ag anghofio archebu eich tocynnau yma.
Pob Lwc!
Ac yn olaf, pob lwc i'r holl gystadleuwyr hynod dalentog a fydd yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod eleni. Fe welwn ni chi yn Wrecsam!
I gael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd, dilynwch ni: