Wedi diflasu yn ystod y cyfnod clo? Mae gennym ap ar gyfer hynny!

Wedi diflasu yn ystod y cyfnod clo? Mae gennym ap ar gyfer hynny!

O ymwybyddiaeth ofalgar a ffitrwydd i rwydweithio cymdeithasol a gemau, dyma restr o'n hoff apiau rhad ac am ddim i gynnal eich iechyd meddwl ac i helpu i atal diflastod yn ystod y cyfnod clo.


1. Duolingo – Dysgu Ieithoedd yn rhad ac am ddim

Beth am ddefnyddio'r amser hwn yn ynysu fel cyfle i ddysgu sgìl newydd? Ar Duolingo, gallwch ddysgu iaith hollol newydd, a bydd hefyd yn rhoi'r cyfle i chi sgwrsio â phobl eraill ar draws y byd.

Ar gael ar Google Play / App Store

2. SuperCook: Ryseitiau yn ôl Cynhwysyn

Mae'r ap coginio hwn yn dod o hyd i ryseitiau o'i gronfa ddata o dros 1 miliwn o ryseitiau gan ddefnyddio cynhwysion sydd eisoes yn eich cwpwrdd, felly ni fydd angen i chi fynd i siopa cyn gwneud eich pryd o fwyd.

Ar gael ar Google Play / App Store

3. Couch to 5K

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod rhedeg yn eich cadw'n iach o'r tu mewn allan ond gall dechrau rhedeg ymddangos yn eithaf brawychus, yn enwedig os nad ydych chi’n teimlo’n heini. Dyma lle daw ap Couch to 5K y GIG yn ddefnyddiol. Mae'r cynllun hwn ar gyfer rhai sy'n megis cychwyn, a bydd yn eich helpu'n raddol i redeg 5K mewn 9 wythnos. Ar eich marciau, barod, llwythwch!

Ar gael ar Google Play / App Store

4. Simply Yoga

Mae Simply Yoga yn ffordd wych o ymestyn, a gall helpu'ch anadlu a'ch osgo yn ogystal â chyfnerthu llesiant eich meddwl. Dewiswch ymarfer 20, 40 neu 60 munud ac ewch amdani. Dangosir pob ystum gan hyfforddwr personol er mwyn i chi berffeithio eich techneg!

Ar gael ar Google Play / App Store

5. Wordfeud

Wedi diflasu ar chwarae cardiau gyda'ch aelwyd? Mae'n amser i chi ddefnyddio Wordfeud. Yn debyg iawn i Scrabble, gêm pos yw Wordfeud lle rydych chi'n herio pobl eraill i ddod o hyd i sgorau uchel wrth lanio ar deitlau llythrennau dwbl, gair dwbl, tair llythyren neu dri gair. Gallwch naill ai herio ffrindiau neu gael eich paru yn erbyn gwrthwynebwyr ar hap.

Ar gael ar Google Play / App Store

6. Catch It

Dysgwch sut i reoli teimladau fel gorbryder ac iselder gyda Catch It. Bydd yr ap hwn gan y GIG yn eich addysgu sut i edrych ar broblemau mewn ffordd wahanol, newid meddyliau negyddol yn rhai cadarnhaol a gwella llesiant eich meddwl.

Ar gael ar Google Play / App Store

7. Feeling Good: Positive Mindset

Dechreuwch y diwrnod ar ben eich digon! Ymlaciwch eich corff a'ch meddwl gyda chyfres o draciau sain wedi'u cynllunio i'ch helpu i adeiladu hyder, egni a meddylfryd cadarnhaol.

Ar gael ar Google Play / App Store