TGAU Technoleg Ddigidol NEWYDD: Am helpu eich dysgwyr i roi bywyd i'w creadigrwydd?

TGAU Technoleg Ddigidol NEWYDD: Am helpu eich dysgwyr i roi bywyd i'w creadigrwydd?

Os ydych chi'n bwriadu cyflwyno ein cymhwyster TGAU Technoleg Ddigidol newydd, byddwch chi'n falch o wybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi menter newydd sy'n galluogi ysgolion i brynu trwyddedau Adobe Creative Cloud, i'w cael drwy ddefnyddio mewngofnodi un-tro ar Hwb, am gost sylweddol is.

Mae Adobe Creative Cloud drwy Hwb yn cynnig llwyfan o 22 o gynhyrchion sy'n rhoi cydweithfa gynhwysfawr, symudol, digidol i ddysgwyr er mwyn rhoi bywyd i'w straeon a'u creadigrwydd, gan ddefnyddio'r un adnoddau â’r hyn y mae arweinwyr y diwydiant yn eu defnyddio heddiw.

Dysgwch fwy am sut i gymryd rhan drwy dudalennau Newyddion Hwb.