TGAU a Safon Uwch: Asesiadau 2021 - Cynllun Llywodraeth Cymru
16/12/2020
Heddiw mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi esbonio ymhellach sut y bydd y system fydd ar waith i ddisodli arholiadau TGAU a Safon Uwch yn 2021 yn gweithio.
Derbyniodd gynigion gan y Grŵp Ymgynghorol Dylunio a Chyflawni a chadarnhaodd wedyn, lle y bo'n berthnasol, y bydd y drefn asesu yng Nghymru fel a ganlyn:
- Asesiadau di-arholiad - manylion ar gael yn llyfryn gwybodaeth Asesu di-Arholiad
- Asesiadau mewnol
- Asesiadau wedi'u gosod a'u marcio'n allanol
Gallwch ddarllen cyhoeddiad y Gweinidog yn llawn yma.
Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr, CBAC:
'Yma yn CBAC, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod pecyn manwl o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth ar gael i helpu'r athrawon wrth iddyn nhw gynllunio a pharatoi eu myfyrwyr ar gyfer asesiadau TGAU ac UG/Safon Uwch yn 2021.’
‘Bydd ein harbenigwyr pwnc a'r timau cefnogi'n barod i rannu manylion pellach am strwythurau cymwysterau a threfniadau asesu ddechrau mis Ionawr.'
'Mae'r hyn a argymhellwyd gan y Grŵp Ymgynghorol Dylunio a Chyflawni yn golygu hefyd y gall athrawon a dysgwyr fod yn sicr, cyn belled ag y bo modd, y byddan nhw'n gallu dibynnu ar ddeunyddiau cyfarwydd, sy'n bodoli'n barod, i gefnogi eu dysgu a'u hasesu yn ystod y cyfnod heriol hwn.
'Bu hon yn flwyddyn heb ei thebyg, ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio â'r Grŵp Ymgynghorol Dylunio a Chyflawni, mewn cydweithrediad â'r gymuned addysg ehangach, er mwyn sicrhau bod dysgwyr Cymru'n cael pob cyfle i ddangos yr hyn maen nhw'n ei wybod, yn ei ddeall, ac yn gallu ei wneud yn 2021,' ychwanegodd.