Sut i wneud y mwyaf o'ch cwsg i helpu i gynnal eich trefn

Sut i wneud y mwyaf o'ch cwsg i helpu i gynnal eich trefn

Os ydych chi wedi cwympo allan o'ch trefn dros yr haf, dyma rhai awgrymiadau i'ch helpu chi i fynd yn ôl i drefn cyn i'r tymor newydd ddechrau.

Os ydych chi’n gweld hi’n anodd cynnal trefn arferol, bydd yr awgrymiadau hyn yn helpu i gynyddu eich cwsg i'r eithaf. Mae cwsg da yn sylfaen gadarn ar gyfer gosod eich trefn yn ogystal â buddion ychwanegol o lai o straen, gwell cynhyrchedd, gwelliant mewn patrwm cysgu, a gwell hwyliau yn gyffredinol.

15 – dyna'r rhif hud

Beth am ddechrau gyda'r amlwg... Allwch chi ddim neidio allan o'r gwely ar doriad gwawr os nad ydych wedi cael llawer iawn o gwsg. Felly, y cam cyntaf yw mynd i'r gwely yn gynt. Wrth gwrs, mae hynny'n aml yn haws dweud na gwneud. Os nad yw eich corff yn barod i orffwys ac os nad yw eich meddwl am beidio, ni allwch orfodi eich hun i gysgu. Cofiwch, rhaid cropian cyn cerdded, gosodwch eich amser gwely 15 munud yn unig ynghynt. Efallai nad yw hynny'n ymddangos yn llawer iawn ar hyn o bryd, ond o wneud y newid bach hwn bedair gwaith dros wythnos neu ddwy, cyn i chi sylweddoli byddwch yn mynd i'r gwely awr gyfan yn gynharach.

Diffoddwch y golau!

Mae ein ffonau clyfar, setiau teledu, tabledi, gliniaduron a'n teclynnau electronig eraill wedi mynd yn rhan mor enfawr o'n bywydau bob dydd fel ei bod yn anodd eu rhoi i lawr—hyd yn oed amser gwely. Ond mae technoleg yn effeithio ar gwsg mewn mwy o ffyrdd nag y sylweddolwch. Mae'r golau glas artiffisial sy'n cael ei allyrru gan sgriniau yn amharu ar ein patrwm cysgu naturiol. Er mwyn osgoi gorysgogi, rydyn ni'n awgrymu eu diffodd o leiaf un awr cyn i chi ei throi hi am y gwely.

5…4…3…2…1

Os ydych chi'n gorwedd yn y gwely wedi blino'n lân neu'n ofni'r diwrnod sydd i ddod, gall fod yn demtasiwn taro'r botwm 'snooze' hwnnw. Yn hytrach, ceisiwch gyfrif yn ôl o bump, ac yna gorfodi eich hun i godi. Y syniad yw rhoi dim ond pum eiliad i chi'ch hun cyn bwrw ymlaen â pha dasg bynnag sy'n eich llethu. Mae hyn yn eich helpu i wthio teimladau o betruster, hunanamheuaeth neu ofn o'r neilltu. Cymhelliad gwych ar gyfer dechrau arni yn y boreau!

Bore da heulwen!

Efallai na fyddwch yn gallu rheoli popeth sy'n digwydd yn ystod y dydd, ond gallwch reoli sut mae'n dechrau. Pam dioddef y boreau pan allwch chi eu mwynhau? Awgrymwn ddechrau bob diwrnod gyda thasg neu weithgaredd sy'n dod â llawenydd i chi, cyn mynd i'r afael â'r diwrnod gwaith. Boed hynny'n ddarllen pennod o'ch llyfr, mwynhau brecwast iach, neu ffonio rhywun annwyl. Dechreuwch y diwrnod yn gadarnhaol a byddwch yn derbyn gweddill y dydd fel y daw!

Glynwch at eich amserlen

Mae pob un ohonom awydd cysgu'n hwyr o bryd i'w gilydd, ond drwy ddechrau'n hwyr unwaith yn unig, gall ddadwneud yr holl gynnydd rydych wedi'i wneud tuag at newid eich amserlen gysgu. Dydych chi ddim eisiau mynd yn ôl i'r cychwyn cyntaf wrth i nos Sul gyrraedd. Meddyliwch pa mor anodd fydd bore Llun bryd hynny! Os na allwch wrthsefyll yr awydd i gysgu'n hwyr dros y penwythnos, cyfyngwch eich hun i un awr yn ychwanegol. Gall hyn helpu i osgoi gwthio eich amserlen gysgu yn ôl yn ormodol.

Peidiwch byth â cholli brecwast

Mae brecwast yn aml yn cael ei alw'n 'bryd pwysicaf y dydd', ac am reswm da. Mae brecwast yn helpu i ailgyflenwi eich glwcos, gan gynyddu eich lefelau egni a'ch helpu i deimlo'n fwy effro. Heb danwydd yn y bore rydych chi'n rhedeg ar danc gwag - does ryfedd eich bod chi'n cael trafferth canolbwyntio! Yn ddelfrydol, argymhellir bwyta o fewn dwy awr i ddeffro, ac mae hyn yn gwella'r cof, lefelau canolbwyntio, a'n hwyliau.

Ymarferion ben bore

Mae ymchwil wedi dangos bod dim ond 20 munud o ymarfer corff cymedrol yn gallu codi eich hwyliau am y 12 awr nesaf. Pa ffordd well o deimlo'n barod ac egnïol ar gyfer y diwrnod sydd i ddod?!

Teimlo'n dda

Wrth ganolbwyntio ar nodau tymor hir, efallai y byddwn yn anwybyddu ein llwyddiannau llai a sut maen nhw'n effeithio ar ein bywydau bob dydd. Ceisiwch ddefnyddio dyddlyfr (journal) i olrhain sut mae eich arferion cysgu a deffro yn effeithio ar eich hwyliau a'ch lefelau egni.

Gofynnwch 'Pam?’ i chi'ch hun

​​​​​​​Mae'n bwysig ystyried eich nod terfynol. Pam ydych chi eisiau bod yn foregodwr? Fel eich bod yn gallu bod yn fwy cynhyrchiol drwy'r dydd? Am eich bod wedi cael llond bol ar deimlo fel rhywun o Shaun of the Dead pan fyddwch chi'n deffro? Neu i'ch helpu i dreulio mwy o amser gyda'ch teulu ar benwythnosau? Drwy ganolbwyntio ar pam, gallwch barhau i deimlo'n gryf eich cymhelliant os ydych yn cael trafferth.