Sut i wneud y gorau o adnoddau Dysgu Cyfunol CBAC

Sut i wneud y gorau o adnoddau Dysgu Cyfunol CBAC

Mae Pennaeth Datblygu Cynnwys CBAC, Melanie Blount, yn esbonio sut gall athrawon a dysgwyr wneud y gorau o'n hadnoddau Dysgu Cyfunol ar-lein am ddim:

Yn wreiddiol, fe wnaethon ni greu ein hadnoddau Dysgu Cyfunol i helpu dysgwyr i barhau â'u hastudiaethau yn ystod pandemig COVID-19. Ers hynny mae'r gwersi ar-lein rhyngweithiol hyn wedi dod yn rhan allweddol o'n llyfrgell o adnoddau ar-lein am ddim, sy'n boblogaidd gydag athrawon a dysgwyr.

Bydd y ffordd y byddwch yn dewis defnyddio ein deunyddiau Dysgu Cyfunol yn amrywio yn dibynnu ar eich arddull addysgu ac anghenion eich dysgwyr, ond rydym yn hyderus y byddwch yn gweld yr adnoddau ar-lein rhyngweithiol hyn yn werthfawr.

Mae'n bwysig nodi mai diben yr adnoddau hyn yw ategu a chefnogi addysgu yn yr ystafell ddosbarth yn hytrach na'i ddisodli – ni fydd athrawon na dysgwyr yn cael y budd llawn heb eu defnyddio'n hybrid.

Dyma rai dulliau ar gyfer ymgorffori deunyddiau Dysgu Cyfunol yn eich addysgu:

 

1. Gwrthdroi’r ystafell ddosbarth

Mae'r dull hwn yn gwrthdroi'r dull mwy cyffredin o ddysgwyr yn dod ar draws testun am y tro cyntaf yn yr ystafell ddosbarth. Yn lle hyn, mae athrawon yn annog dysgwyr i fynd i’r afael ag unedau dysgu cyfunol cyn mynd i'r afael â'r cynnwys yn y dosbarth.

Mae hyn yn caniatáu i ddysgwyr ddod i'r dosbarth ar ôl dod i ddeall rhywfaint am y testun, fel y gall athrawon ddefnyddio’r amser addysgu wyneb yn wyneb yn fwy effeithlon – er enghraifft drwy ganolbwyntio ar feysydd arbennig o heriol neu aneglur i’r dysgwyr.

Gall fod yn arbennig o ddefnyddiol pan fydd angen i athrawon ymdrin â holl gynnwys y fanyleb yn effeithlon.

 


 

2. Cylchdroi gweithfannau

Mae'r dull hwn yn golygu rhannu'r dosbarth yn 'weithfannau' i ganolbwyntio ar wahanol weithgareddau, a chylchdroi dysgwyr o amgylch y grwpiau hynny. Gellid defnyddio hyn wrth gyflwyno testun/gwers newydd, neu gellid ei ddefnyddio ar ôl i ddysgwyr fynd i’r afael â'r cynnwys gartref.

Gall y dull hwn helpu athrawon i gyflwyno cynnwys yn fwy effeithlon, neu eu helpu i ddarparu ar gyfer dysgwyr sydd â lefelau gallu gwahanol o fewn yr un lleoliad.

Byddai gwersi yn dechrau yn y ffordd gonfensiynol gyda chyfarwyddyd uniongyrchol gan yr athro ac yna byddai'r dosbarth yn cylchdroi o amgylch y 'gweithfannau' ar gyfer prif ran y wers.

Er enghraifft, gellid rhannu'r dosbarth yn weithfannau fel a ganlyn:

Grŵp cynnwys Dysgu Cyfunol: Mae dysgwyr yn meithrin neu'n atgyfnerthu gwybodaeth am destun gan ddefnyddio'r deunyddiau Dysgu Cyfunol, naill ai mewn fformat digidol neu ar bapur.

Gwaith grŵp: Mae dysgwyr yn cwblhau tasgau ysgrifenedig fel cyn-bapurau arholiad, neu'n defnyddio'r amser ar gyfer adolygu gan gyfoedion neu ddatrys problemau.

Ffocws athrawon: Gall athrawon weithio gyda grŵp bach o ddysgwyr gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau penodol, herio'r rhai mwy galluog neu roi mwy o gefnogaeth i'r rhai yn y dosbarth sy'n ei chael hi'n anodd.

 


 

3. Cylchdroi labordai

Mae cylchdroi labordai yn gweithio yn yr un ffordd â chylchdroi gweithfannau ond mae'n ddewis arall gwych os oes labordy cyfrifiadurol a chymorth addysgu ychwanegol ar gael. Mantais hyn yw bod athrawon yn gallu canolbwyntio'n llwyr ar grŵp llai wrth i rywun arall gefnogi gweddill y dosbarth.

 


 

4. Dysgu atodol

Mae hyn yn gweithio yn yr un ffordd â thasg gwaith cartref gonfensiynol. Mae'n caniatáu i fyfyrwyr barhau â'u dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Gallai athrawon wahaniaethu'r gwaith drwy roi cyfle i rai dysgwyr atgyfnerthu eu dealltwriaeth o'r testun a addysgir yn y dosbarth, tra gellid annog dysgwyr mwy galluog i ganolbwyntio ar dasgau estynedig ac ymarfer ar gyfer arholiadau.

 


 

5. Model hyblyg

Mae'r model hyblyg yn ddelfrydol ar gyfer gwersi adolygu gan ei fod yn caniatáu i'r athro osod tasgau unigol ar gyfer pob dysgwr yn dibynnu ar y bylchau yn eu gwybodaeth. Mae hefyd yn caniatáu i ddysgwyr gael rheolaeth ar eu dysgu eu hunain a dewis yr unedau y maent am weithio arnynt. Mae'r athro yn gweithredu fel hwylusydd yn y model hwn.

 


 

6. Dysgu meistrolaeth

Mae'r strategaeth dysgu meistrolaeth yn cefnogi dysgwyr gyda’u hadolygu. Gellir cael mynediad i'r unedau dysgu cyfunol unrhyw le ac ar unrhyw adeg, gymaint o weithiau ag y mae dysgwr ei angen nes eu bod yn teimlo eu bod wedi deall testun yn llwyr. Mae'r cwisiau gwirio gwybodaeth yn sicrhau bod dysgwyr yn mynd i’r afael â chynnwys y wers ac mae’r cwestiynau arholiad ar ddiwedd testun yn caniatáu iddynt gymhwyso'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu.

 

Darganfyddwch ddeunyddiau Dysgu Cyfunol a llawer mwy ar ein gwefan Adnoddau