
Sut i ddefnyddio AI yn gyfrifol yn eich asesiadau yn yr ysgol neu goleg
Gydag adnoddau Deallusrwydd Artiffisial (AI) fel ChatGPT, Gemini a Grammarly yn mynd yn fwy poblogaidd, mae'n bwysig i fyfyrwyr fod yn defnyddio'r adnoddau hyn yn gyfrifol yn eu hasesiadau yn yr ysgol neu goleg.
Fel un o fyrddau arholi mwyaf y DU, dyma'n prif argymhellion fel y gallwch chi sicrhau eich bod chi'n defnyddio AI yn gywir yn eich gwaith!
Cadw'n saff
Cyn dechrau arni, peidiwch â defnyddio unrhyw adnodd sy'n defnyddio nodweddion AI – ystyriwch am eiliad a yw'n adnabyddus ac yn ddiogel. Pan fyddwch chi'n hyderus eich bod chi'n defnyddio adnodd priodol, dylech chi hefyd osgoi rhannu gwybodaeth bersonol megis manylion cyswllt a mewngofnodi, neu unrhyw wybodaeth sensitif arall.
Cofiwch y rheolau
Ni ellir defnyddio adnoddau AI yn ystod yr arholiadau, ond gall fod caniatâd i chi eu defnyddio nhw ar gyfer rhannau penodol o waith cwrs. Bydd hyn yn dibynnu ar y cymhwyster, felly dylech chi wirio â'ch athro yn gyntaf bob amser i weld a yw hyn yn wir.
Cyfeirnodwch yn glir
Pan fydd adnoddau AI yn cael eu caniatáu, sicrhewch eich bod yn eu cyfeirnodi nhw'n glir yn eich gwaith cwrs. Mae hyn yn cynnwys enw'r adnodd, y dyddiad y crëwyd y cynnwys, a sut y gwnaethoch chi ei ddefnyddio. Dylech chi hefyd gymryd sgrinlun wrth greu cynnwys AI fel tystiolaeth.
Paratoi i ddatgan
Pan mae'n dod i gyflwyno eich gwaith, bydd yn rhaid i chi lofnodi datganiad i ddweud mai eich gwaith chi eich hun yw unrhyw beth sydd heb ei gyfeirnodi. Sicrhewch eich bod yn onest ac yn darparu holl fanylion perthnasol yr adnoddau AI rydych chi wedi'u defnyddio cyn llofnodi eich datganiad.
Peidiwch â’i chymryd risg
Mae camddefnyddio AI yn cael ei ystyried yn dwyll, felly peidiwch â risgio colli marciau neu gael dyfarniad annosbarthedig. Cofiwch y rheolau, siaradwch â'ch athrawon, a byddwch chi'n goresgyn eich asesiadau yn hyderus!
Ydych chi'n chwilio am ragor o arweiniad? Cymerwch olwg ar ganllaw cyflym AI ac asesiadau'r CGC ar gyfer myfyrwyr!