
Rydyn ni'n noddi’r Sioe Addysg Genedlaethol 2025! A wnewch chi ymuno â ni?
Rydyn ni'n falch o noddi ac arddangos y Sioe Addysg Genedlaethol eleni.
Pryd? 3 Hydref 2025
Ble? Arena Utilita, Caerdydd
Am y digwyddiad
Cynhelir y Sioe Addysg Genedlaethol yn flynyddol yn Arena Utilita yng Nghaerdydd. Mae'n dod â miloedd o athrawon, arweinwyr a gweithwyr addysg proffesiynol at ei gilydd ar gyfer diwrnod o ddysgu, rhwydweithio a darganfod syniadau newydd.
Gyda rhaglen lawn o seminarau ac arddangosfa enfawr yn cyflwyno'r adnoddau a'r datblygiadau arloesol diweddaraf, mae'n gyfle gwych i archwilio dulliau newydd, dysgu strategaethau ymarferol, a chysylltu ag eraill sy'n angerddol am wella addysg.
Cwrdd â'r tîm
Galwch heibio ein stondin, (105 a 106), i gyfarfod ein tîm cyfeillgar! Byddwn wrth law i ateb eich holl gwestiynau am ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd ac arddangos ein hamrywiaeth eang o adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM.
Yn sôn am ein cyfranogiad dywedodd Julie Rees, Swyddog Datblygu Cymwysterau:
![]() |
"Rydym yn edrych ymlaen i arddangos ein cymwysterau TGAU newydd sbon, ynghyd â'r amrywiaeth eang o gefnogaeth ac adnoddau digidol rhad ac am ddim sydd ar gael i ysgolion. Byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth diweddaraf ar ein cymwysterau Ton 3, gan gynnwys cymwysterau TAAU. Mae'n gyfle gwych i gwrdd â'n tîm, gofyn cwestiynau, a darganfod sut y gallwn gefnogi addysgu a dysgu ledled Cymru." |