Polisi camymddwyn a deallusrwydd artiffisial – canllawiau Tachwedd 2023
Polisi camymddwyn a deallusrwydd artiffisial – canllawiau Tachwedd 2023

Mae Richard Harry, Cyfarwyddwr Cymwysterau ac Asesu CBAC, wedi cyhoeddi’r canllawiau canlynol i ganolfannau ynghylch camymddwyn a’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn ystod cyfnodau asesu.

Mae deallusrwydd artiffisial yn effeithio'n fawr ar y sector addysg. Gallai fod yn hynod o fuddiol ond mae llawer o risgiau a heriau'n perthyn iddo yn ogystal. Mae hyn yn cynnwys camymddwyn gan ymgeiswyr drwy lên-ladrata'n ddamweiniol neu'n fwriadol yn ystod eu hasesiadau.

Mae CBAC wedi bod yn cydweithio ag aelodau eraill y CGC i lunio canllawiau i athrawon a staff eraill mewn canolfannau o ran atal llên-ladrad, gan gynnwys y defnydd amhriodol o ddeallusrwydd artiffisial. Byddem yn ddiolchgar am eich cefnogaeth yn hyn o beth a gofynnwn i chi felly rannu'r wybodaeth hon ag aelodau perthnasol o staff y ganolfan.

Anelir dogfen y CGC Canllawiau i Athrawon/Aseswyr ar lên-ladrad at staff sy'n gyfrifol am oruchwylio a/neu farcio asesiadau di-arholiad. Mae'r ddogfen hon yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol i athrawon eu hystyried cyn llofnodi'r ffurflen datganiad dilysu.

Mae'r canllawiau CGC Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (DA) mewn Asesiadau: Diogelu Uniondeb Cymwysterau yn canolbwyntio ar camddefnyddio DA mewn asesiadau, cyfathrebu disgwyliadau o ran y defnydd o DA a chanlyniadau defnydd amhriodol i ddysgwyr a rhieni, a hefyd y gofyniad i gynnwys DA ym Mholisi Camymddwyn y ganolfan.

Mae dogfen Rheoliadau Cyffredinol ar gyfer Canolfannau Cymeradwy 2023-24 y CGC yn ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau fod â pholisi camymddwyn ysgrifenedig ar waith a ddylai fod ar gael i'w archwilio gan Wasanaeth Arolygu Canolfannau'r CGC (paragraff 5.3 z). Rhaid i'r polisi roi manylion ynghylch y ffordd yr hysbysir ac y cynghorir ymgeiswyr i osgoi camymddwyn mewn arholiadau/asesiadau, y ffordd y dylid uwchgyfeirio materion yn ymwneud ag achosion o amau camymddwyn o fewn y ganolfan a'r ffordd y dylid adrodd am yr achosion hynny wrth y corff dyfarnu perthnasol.

Rydym yn ymwybodol bod ystyriaethau DA yn newid yn gyflym ac rydym yn cydweithio ag eraill er mwyn datblygu a rhannu adnoddau i gefnogi'r canolfannau a'r dysgwyr. Efallai y gwyddoch yn barod am waith AI in Education a'r adnoddau sydd ar gael.

Rydym yn awyddus hefyd i ddysgu mwy gan ysgolion a cholegau ac i gael adborth gennych ar y canllawiau CGC Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (DA) mewn Asesiadau: Diogelu Uniondeb Cymwysterau. Cyhoeddwyd arolwg byr gan y CGC i ofyn am eich adborth. Os nad ydych chi wedi gwneud hynny'n barod, byddem yn ddiolchgar iawn pe byddech fel canolfan yn cwblhau'r arolwg hwn erbyn 21 Tachwedd 2023.

Mae'r CGC yn parhau i ddatblygu canllawiau ac adnoddau newydd ar DA. Mae hyn yn cynnwys pethau fel ffeithluniau ar gyfer staff canolfannau a myfyrwyr a fydd yn cael eu cyhoeddi ar ei wefan.

Yn gywir

RICHARD HARRY
Cyfarwyddwr Cymwysterau ac Asesu