Parthed: Addasiadau arfaethedig i gymwysterau TGAU CBAC yn haf 2021
Rydym yn ymwybodol y bydd cau ysgolion a cholegau wedi effeithio ar y dysgwyr hynny sydd hanner ffordd drwy eu cymwysterau TGAU yr haf hwn. Deallwn fod yr amharu ar yr addysgu a'r dysgu yn heriol i'r rheiny sy'n bwriadu cwblhau eu cymwysterau yn 2021.
Mae’r rhain yn amgylchiadau digynsail ac oherwydd hynny rydym wedi bod yn cydweithio'n agos â Cymwysterau Cymru er mwyn ystyried pa addasiadau y byddai'n briodol eu gwneud i'n cymwysterau TGAU. Gan gadw hyn mewn cof, rydym wedi bod yn cyd-drafod â grwpiau ffocws o athrawon o wahanol rannau o Gymru gyda'r bwriad o lunio cynigion ar gyfer addasiadau i'w gwneud i'r TGAU ar gyfer 2021. Hoffem yn awr ymgynghori'n ehangach ynghylch yr addasiadau arfaethedig hyn.
Rydym wedi llunio llyfryn pynciol sy'n amlinellu'r holl addasiadau arfaethedig, a'r egwyddorion sy'n sail i'r broses hon – gallwch weld y ddogfen hon ar ein gwefan ddiogel yma.
Mae eich barn yn bwysig i ni, ac rydym yn eich annog chi a'ch timau i rannu eich safbwyntiau am ein cynigion drwy gwblhau ein harolwg. Ni ddylai'r arolwg gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau a gellir ei weld drwy ddilyn y cyswllt hwn yma. Os ydych yn bwriadu ymateb i fwy nag un cynnig pwnc, bydd angen i chi gwblhau'r arolwg ar gyfer pob pwnc yr ydych yn ymateb iddo.
Bwriadwn gadarnhau manylion yr addasiadau cyn diwedd tymor yr haf. Gofynnwn i chi felly a fyddech cystal â chwblhau'r arolwg hwn erbyn 9 Gorffennaf.