Noddwyr Balch yng Ngwobrau Dysgwyr 2025 Coleg y Cymoedd 

Roeddem yn falch o noddi'r Wobr Safon Uwch yng Ngwobrau Dysgwyr Coleg y Cymoedd eleni, a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2025 ar gampws Nantgarw y coleg. Roedd y digwyddiad yn dathlu cyflawniadau, cynnydd, a chyfraniadau anhygoel dysgwyr ar draws cymuned y coleg. 

Daeth myfyrwyr, staff, noddwyr a gwesteion at ei gilydd i weld 35 o wobrau yn cael eu cyflwyno ar draws amrywiaeth eang o gategorïau, gan gynnwys ein categori noddedig ni – y Wobr Safon Uwch. Cafodd y myfyrwyr eu henwebu gan eu tiwtoriaid a'r staff cefnogi mewn cydnabyddiaeth o ymrwymiad, cynnydd, ac effaith gadarnhaol yr unigolion hynny drwy gydol y flwyddyn academaidd. 

Dywedodd ein Prif Weithredwr, Ian Morgan, wrth longyfarch: 
"Mae'n bleser gennym fod wedi cefnogi Gwobrau'r Dysgwyr a noddi'r Wobr Safon Uwch. Llongyfarchiadau mawr i'r enillwyr eleni – Carys-Megan James ac Abbina Selvamenan. Mae eich ymroddiad a'ch cyflawniadau yn ysbrydoledig tu hwnt. Mae digwyddiadau fel hyn yn tynnu sylw at waith caled dysgwyr a'r gefnogaeth anhygoel maen nhw'n ei chael gan y staff yng Ngholeg y Cymoedd. Mae'n fraint gennym fod yn rhan ohono."

Hoffem ddiolch i Goleg y Cymoedd am gynnal dathliad mor galonogol ac am ein gwahodd i fod yn rhan ohono. 

Llongyfarchiadau unwaith eto i holl enillwyr y gwobrau!