Neges gan Joanna Moonan, Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr CBAC

Neges gan Joanna Moonan, Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr CBAC

"Ar ôl canslo arholiadau'r haf, gweithiodd CBAC gydag ysgolion, colegau a Cymwysterau Cymru i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn eu canlyniadau mewn pryd fel y gallant fynd ymlaen i'r cam nesaf. 

Derbyniwn fod y dull newydd wedi achosi poen meddwl ac ansicrwydd i rai dysgwyr ac mae'n wir ddrwg gennym am hynny.

Mae'r holl newidiadau a gynigiwyd yn ddiweddar wedi'u rhoi ar waith. Gall dysgwyr felly fod yn hyderus eu bod wedi derbyn eu graddau'n seiliedig ar yr hyn a ragfynegwyd gan eu canolfannau.

Maen nhw'n casglu eu canlyniadau TGAU heddiw a dylent fod yn falch o'r hyn a gyflawnwyd ganddynt. Dymunwn y gorau i bob un ohonynt.

Hoffwn longyfarch y dysgwyr heddiw ar ran Bwrdd Cyfarwyddwyr CBAC. Diolch yn fawr hefyd i'r ysgolion, y colegau a chydweithwyr yn CBAC am eu holl waith caled ac ymrwymiad wrth i bawb gydweithio i ddarparu’r canlyniadau i'r dysgwyr heddiw."

Joanna Moonan, Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr CBAC