Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gan bawb yn CBAC

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gan bawb yn CBAC

Neges gan ein Prif Weithredwr, Ian Morgan

Wrth i ni gyrraedd terfyn blwyddyn arbennig o heriol i bob un ohonom sy'n gweithio yn y sector addysg, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i chi a'ch timau am eich proffesiynoldeb, ymroddiad a'ch cefnogaeth parhaus. Mae'n arbennig o bwysig ein bod yn cydnabod gwaith caled athrawon, darlithwyr, a'r nifer mawr o weithwyr cefnogi mewn ysgolion a cholegau, sydd wedi gweithio gyda ni i sicrhau bod myfyrwyr ar draws Cymru yn derbyn graddau yn yr haf – gan eu galluogi i symud ymlaen i addysg uwch neu i gychwyn ar eu gyrfaoedd. 

Fel chithau, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd 2022 yn flwyddyn sy'n debycach o lawer i'r arfer. Mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi cadarnhau mai eu bwriad yw cynnal asesiadau allanol, ond gyda rhai addasiadau, a bydd ein timau wrth law i'ch cefnogi ar bob cam o'r ffordd. Os oes gan eich timau unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r addasiadau rydym wedi’u gwneud i'n manylebau neu’r asesiadau, rydym yn eu hannog i gysylltu â'n harbenigwyr pwnc. Byddan nhw’n gallu rhoi cyngor ac arweiniad clir a dibynadwy.  

Yn ogystal â'r cyngor arbenigol a gynigiwn, mae ein Tîm Adnoddau Digidol yn parhau i greu adnoddau digidol arloesol i gynorthwyo'r addysgu a dysgu, sy'n cynnwys pecyn cynhwysfawr o wersi Dysgu Cyfunol, Trefnwyr Gwybodaeth ac adnoddau Arweiniad i'r Arholiad. Mae'r rhain ar gael yn rhad ac am ddim ar ein Gwefan Adnoddau Digidol

Am y tro, dymunaf Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd lewyrchus i bawb. Diolch unwaith eto am eich cefnogaeth parhaus ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi yn 2022. 

Yn gywir 

Ian