Mynediad rhad ac am ddim i sgriptiau wedi'u marcio

Mynediad rhad ac am ddim i sgriptiau wedi'u marcio

Hoffech chi wella eich dealltwriaeth o sut mae arholiadau eich dysgwyr yn cael eu marcio? Deall sut mae'r cynlluniau marcio'n cael eu cymhwyso? Dysgu o sylwadau arholwyr a chael dealltwriaeth o berfformiad eich dysgwyr?

Er mwyn cefnogi'ch addysgu a datblygu eich dealltwriaeth o asesiadau, rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnig mynediad rhad ac am ddim i bob sgript sydd wedi'i farcio o fis Awst ymlaen.*

Bydd ysgolion a cholegau sy'n cyflwyno ein cymwysterau nawr yn gallu cael mynediad at sgriptiau ymgeiswyr wedi'u marcio o Ddiwrnod y Canlyniadau drwy ein Gwefan Ddiogel. Bydd y rhain ar gael ar gyfer yr holl asesiadau allanol o Haf 2023, gan gynnwys yr holl gymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a Galwedigaethol.

Bydd pob sgript ar gael fel PDF ac yn cynnwys y marciau ac unrhyw sylwadau a wneir gan ein harholwyr hyfforddedig i'ch helpu i adolygu perfformiad eich dysgwyr. Gall y rhain hefyd fod yn gymhorthion ystafell ddosbarth defnyddiol, i ddangos cryfderau dysgwyr presennol a chamgymeriadau cyffredin y dylent eu hystyried mewn asesiadau yn y dyfodol.

Bydd rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar gael cyn Diwrnod y Canlyniadau ym mis Awst, fodd bynnag, mae cyfres fer o Gwestiynau Cyffredin ar gael isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch e-bost at adborth@cbac.co.uk.

*Cofiwch fod yn rhaid i chi gael cydsyniad ysgrifenedig yr ymgeisydd cyn cael mynediad at ei sgript(iau). Mae hyn yn cynnwys cael mynediad at sgriptiau i ategu adolygiadau o'r marcio ac/neu i ategu addysgu a dysgu.Mae manylion llawn yr amodau'n ymwneud â chael mynediad at sgriptiau i'w cael yn llyfryn Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau y CGC.  

 


 

Sut alla i gael gafael ar y sgriptiau arholiad wedi'u marcio rhad ac am ddim?

Bydd sgriptiau wedi'u marcio ar gael trwy ein Gwefan Ddiogel ar Ddiwrnod y Canlyniadau. I gael mynediad, mewngofnodwch, dewiswch y tab 'Canlyniadau', ac yna dewiswch 'Gweld Mynediad at Sgriptiau' o'r gwymplen. O'r fan hon, gallwch hidlo yn ôl pwnc a lawrlwytho'r papur wedi'i marcio perthnasol.

Rwy'n athro/darlithydd, ond nid oes gennyf fynediad i'r Wefan Ddiogel?

Os oes gennych gofrestriadau gyda ni, cysylltwch â'ch Swyddog Arholiadau, a all roi manylion mewngofnodi i chi ar gyfer ein Gwefan Ddiogel.

Ar gyfer pa gyfres arholiadau fydd y sgriptiau wedi'u marcio rhad ac am ddim ar gael?

Byddwn yn dechrau cynnig y gwasanaeth hwn ar gyfer cyfres Haf 2023, ac yna y bydd ar gael ar gyfer pob asesiad yn y dyfodol.

Pa bynciau sydd ar gael?

Mae sgriptiau wedi'u marcio ar gael ar gyfer pob pwnc, gydag arholiadau allanol wedi'u marcio, mae hyn yn cynnwys yr holl gymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a Galwedigaethol. Noder, nid yw hyn yn cynnwys unrhyw asesiadau mewnol.

Pryd fydd y sgriptiau wedi'u marcio ar gael?

Bydd papurau wedi'u marcio ar gael trwy ein Gwefan Ddiogel ar Ddiwrnod y Canlyniadau.

A fydd angen i mi wneud cais am Wasanaeth ar ôl y Canlyniadau e.e. Apêl i gael mynediad at sgriptiau wedi'u marcio rhad ac am ddim?

Na, mae mynediad at sgriptiau wedi'u marcio yn wasanaeth rhad ac am ddim yr ydym yn ei gynnig. Mae'r gwasanaeth hwn ar wahân i'n Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau. Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn ar gael o'r dudalen Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau.

A oes angen caniatâd fy nysgwr arnaf i gael mynediad at ei sgriptiau wedi'u marcio?  

Oes, mae'n rhaid i chi gael cydsyniad ysgrifenedig yr ymgeisydd cyn cael mynediad at ei sgript(iau). Mae hyn yn cynnwys cael mynediad at sgriptiau i ategu adolygiadau o'r marcio ac/neu i ategu addysgu a dysgu. Mae manylion llawn yr amodau'n ymwneud â chael mynediad at sgriptiau i'w cael yn llyfryn Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau y CGC.  

Pa gefnogaeth / arweiniad sydd ar gael?

Bydd cefnogaeth ac arweiniad ychwanegol ar gael drwy ein Gwefan Ddiogel cyn Diwrnod y Canlyniadau.