Mae arnom eich angen chi! Ymunwch â'n Grŵp Cynghori Dysgwyr heddiw

Mae arnom eich angen chi! Ymunwch â'n Grŵp Cynghori Dysgwyr heddiw

Credwn ei bod yn bwysig gwrando ar leisiau ein dysgwyr. Felly, wrth i ni fynd ati i ddatblygu'r TGAU newydd a chymwysterau perthynol yn rhan o broject Cymwysterau Cymru "Cymwys ar gyfer y Dyfodol”, rydym yn chwilio am ddysgwyr o bob rhan o Gymru i ymuno â'n Grŵp Cynghori Dysgwyr.

Mewn sylw am y grŵp cynghori newydd hwn, dywedodd Jonathan Thomas, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand yn CBAC: "Y dysgwyr sy'n holl bwysig i bopeth rydym yn ei wneud. Wrth i ni fynd ati i gyd-awduro'r cymwysterau newydd hyn, teimlwn ei bod yn hynod o bwysig cael clywed eu barn nhw yn ystod y broses ddatblygu. Dyma gyfle gwych i ddysgwyr o Gymru gyfan i roi adborth ar ein syniadau ac i ddod i ddeall sut mae proses ddatblygu ein cymwysterau yn digwydd."

Pam ymuno â'n Grŵp Cynghori Dysgwyr?

Mae aelodau'r Grŵp Cynghori Dysgwyr yn ganolog i ddatblygiad ein cymwysterau. Yn y rôl hon, bydd disgwyl i aelodau wneud rhai neu bob un o’r canlynol:

  • Rhoi eich barn am ddylunio cymwysterau.
  • Cyfrannu o safbwynt dysgwr.
  • Cymryd rhan mewn trafodaethau ychwanegol ynghylch cynhyrchion CBAC e.e. cynnwys gwefan, cyfryngau cymdeithasol ac i ddysgwyr.

Sut byddwch chi'n cael budd o hyn?

Byddwch chi nid yn unig yn helpu i lunio dyfodol addysg yng Nghymru drwy fod yn aelod o'n Grŵp Cynghori Dysgwyr ond hefyd yn gallu cael budd o sawl peth gan gynnwys:

  • Cwrdd â myfyrwyr o wahanol rannau o Gymru a gweithio gyda'n Tîm Datblygu Cymwysterau cyfeillgar.
  • Defnyddio a datblygu eich sgiliau meddwl yn feirniadol a'ch sgiliau cyfathrebu.
  • Datblygu eich sgiliau rheoli amser.
  • Ychwanegu'r cyfle hwn at eich datganiad personol a chyfeirio ato yn eich cyfweliadau nesaf!
  • Derbyn taleb rhodd Amazon gwerth £20.

Pwy sy'n gymwys?

Gallwch chi fod yn aelod os ydych chi'n:

  • Ddysgwr rhwng 14 ac 19 oed sy'n dilyn amrywiaeth o raglenni dysgu.
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu da ac awydd i gyfrannu at drafodaeth.

Sut i wneud cais:

Rydym bellach wedi cau ein porth cyflwyno ceisiadau ar gyfer y Grŵp Cynghori Dysgwyr. Diolch i bawb sydd wedi gwneud cais.

Bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â’r ymgeiswyr llwyddiannus yn fuan i drafod y camau nesaf.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’n Grŵp Cynghori Dysgwyr nesaf, cysylltwch â Gwen ar y cyfeiriad e-bost canlynol: gwenda.matthews@wjec.co.uk