Llunio Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 Cymru: Pam mai CBAC yw’r dewis dibynadwy ar gyfer Addysg 14-16?

Fel yr unig gorff dyfarnu yng Nghymru sy’n datblygu TGAU fel rhan o Gymwysterau Cenedlaethol 14-16  Cymwysterau Cymru, mae gennym dros 75 mlynedd o brofiad o gy flwyno cymwysterau dwyieithog, gwerthfawr a dibynadwy. Yn yr erthygl hon, mae Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Cymwysterau (Cymwysterau Cyffredinol), yn esbonio sut mae ein sefyllfa unigryw wrth ddatblygu TGAU Gwneud-i-Gymru ochr yn ochr â chymwysterau Galwedigaethol a rhai sy’n seiliedig ar Sgiliau yn golygu mai ni yw’r partner naturiol ar gyfer ysgolion a cholegau ledled Cymru. 

Adeiladu ar hanes da o arbenigedd: O TGAU Gwneud-i-Gymru i gyfres gynhwysfawr o gymwysterau 

Er bod rhai pobl yn credu mai corff dyfarnu Cymwysterau Cyffredinol yn unig yw CBAC, mae ein harbenigedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i hyn. Cyn y rhaglen ddiwygio bresennol, gwnaethom sefydlu ein hunain fel datblygwyr cymwysterau Cyffredinol, Galwedigaethol a rhai sy’n seiliedig ar Sgiliau sydd wedi’u teilwra’n arbennig i ddysgwyr Cymru. 

Mae’r broses o ddatblygu ein TGAU Gwneud-i-Gymru wedi gwella ein dealltwriaeth o sut gall cymwysterau gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru. Rydym mewn sefyllfa wych i ddatblygu cymwysterau Sylfaen Cyffredinol ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gall dysgwyr ar bob lefel gael mynediad i gymwysterau o ansawdd uchel – fel y TGAU cysylltiedig, bydd y rhain yn seiliedig ar y Datganiadau o’r hyn sy’n Bwysig a’r Egwyddorion Cynnydd.  

Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod dysgwyr ar bob lefel yr un mor werthfawr.Fel yr unig fwrdd sydd eisoes wedi datblygu Cymwysterau Cenedlaethol i ddysgwyr 14-16 oed gyda’n ton gyntaf o TGAU, rydym wedi creu fframweithiau i ystyried sut gall ein cymwysterau gefnogi ysgolion a cholegau i gyflwyno agweddau ehangach ar y Cwricwlwm i Gymru, fel themâu trawsbynciol a sgiliau trawsgwricwlaidd a sut gallwn roi lle i gwricwla sy’n cael eu llunio’n lleol. Gwnaethom hefyd gyflwyno amrywiaeth o asesiadau di-arholiad a gwella cynrychiolaeth ac amrywiaeth y cymwysterau, fel y gall dysgwyr gymhwyso gwybodaeth mewn cyddestunau ystyrlon a pherthnasol.  

Mae’r profiad cynhwysfawr hwn ar draws pob un o’r cymwysterau yn rhoi safbwynt unigryw i ni ar y cynnig Cymwysterau 14-16 Cenedlaethol, ac yn sicrhau bod pob cymhwyster yn cyfrannu at lwybr cydlynol tuag at wireddu’r Pedwar Diben. 

Y Gyfres Sgiliau: Adeiladu ar ddegawd o lwyddiant 

Ers cyflwyno’r Dystysgrif Her Sgiliau yn 2015, mae gennym arbenigedd heb ei debyg mewn cymwysterau sgiliau i ddysgwyr 14–16 oed. Mae gan ein Swyddogion Cefnogi Rhanbarthol berthynas agos gydag ysgolion a cholegau ledled Cymru, sy’n rhoi adborth gwerthfawr i ni — gwybodaeth rydym yn ei defnyddio’n uniongyrchol i ddatblygu’r Project Personol a’r Gyfres Sgiliau newydd. 

Bydd y cymwysterau hyn yn rhoi sgiliau bywyd a gwaith hanfodol i ddysgwyr, ac yn galluogi canolfannau i symud yn hawdd o’r Dystysgrif Her Sgiliau. Mae ein portffolio sgiliau yn dangos ehangder sylweddol: o’n Llwybrau at Gyflogaeth i’n Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. 

Cymwysterau galwedigaethol: Creu llwybrau gwerthfawr 

Rhaid i’n darpariaeth alwedigaethol gael ei hystyried yr un mor werthfawr gan ddysgwyr, rhieni a chyflogwyr. Gan adeiladu ar ein henw da am ddarparu cymwysterau o ansawdd uchel sy’n wirioneddol gyfoes, rydym yn datblygu’r Dystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU) a Chymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith sy’n rhoi gwybodaeth a sgiliau hanfodol i ddysgwyr tra’n ymateb i anghenion diwydiannau Cymru sy’n newid o hyd. 

Mae ein cymwysterau Lled-ddargludyddion diweddar — a ddatblygwyd gyda chyflogwyr ac arbenigwyr o fyd diwydiant i gwrdd â gofynion sy’n dod i’r amlwg yn niwydiannau Cymru — yn dangos y gallwn greu cymwysterau sy’n barod ar gyfer y dyfodol. 

I ddysgu rhagor am gynnig CBAC, ewch i: cbac.co.uk/ton3 

Cyd-awduro: Hanes da o weithio mewn partneriaeth 

Mae cyd-awduro yn sylfaenol i’n dull gweithredu. Dangosodd ein cymwysterau Cynaliadwyedd a ddatblygwyd yn ddiweddar, ac a gafodd eu llunio mewn partneriaeth â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, pa mor rymus yw cyd-awduro wirioneddol ac arweiniodd hyn at gymwysterau sy’n cyd-fynd yn uniongyrchol â  weledigaeth cynaliadwyedd Cymru.  

Rydym nawr yn rhoi’r egwyddorion cydweithredol llwyddiannus hyn ar waith gyda sefydliadau allweddol i ddatblygu ein Cyfres Sgiliau. Ar gyfer y Cymwysterau Cenedlaethol 14-16, rydym wedi ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid.  

Mae ein strwythur datblygu yn cynnwys Grwpiau Cynghori Datblygu Cymwysterau ar gyfer pob pwnc, yn ogystal â grwpiau trosfwaol sy’n cynrychioli arweinwyr ysgolion a cholegau, dysgwyr, rhanddeiliaid ac undebau — gan sicrhau bod ein cymwysterau yn cynnig gwerth i holl gymunedau dysgu Cymru. 

Rhagoriaeth ddwyieithog: Darpariaeth gyfartal o’r diwrnod cyntaf 

Rydym wedi ymrwymo i gynnig darpariaeth Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Mae gennym arbenigedd mewnol helaeth ac rydym wedi creu cysylltiadau agos â Chanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, gan ein galluogi i roi’r arfer gorau ar waith o ran terminoleg cyfrwng Cymraeg. 

Pam mae canolfannau yn dewis CBAC? 

Mae ein henw da yn golygu mai ni yw’r dewis dibynadwy ar gyfer cymwysterau wyieithog o ansawdd uchel. Mae ein harbenigedd a’u dull o ddatblygu drwy gyd-awduro yn sicrhau bod ein cymwysterau yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau dysgwyr — gyda llwybrau cynnydd clir i addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau neu gyflogaeth. 

Rydym yn darparu cefnogaeth ddwyieithog gynhwysfawr, gan alluogi athrawon i gyflwyno’n hyderus o fewn fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Wrth i Ysgolion a Cholegau baratoi i gyflwyno’r gyfres newydd o Gymwysterau Galwedigaethol o fis Medi 2027, mae arnynt angen corff dyfarnu sydd â dealltwriaeth gynhwysfawr o fyd cymwysterau.  

Mae ein llwyddiant wrth ddatblygu ein TGAU Gwneud-i-Gymru a’n gwybodaeth gynhwysfawr am y Cwricwlwm i Gymru, ynghyd â’n harbenigedd Galwedigaethol a Sgiliau, yn golygu ein bod mewn sefyllfa unigryw i gefnogi’r cyfnod hwn o newid. Rydym yn llunio’r dyfodol ac yn sicrhau bod gan bob dysgwr yng Nghymru lwybrau clir i lwyddiant. 

Ysgrifennwyd gan Delyth Jones Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Cymwysterau  

(Cymwysterau Cyffredinol)