Neges gan Joanna Moonan, Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr CBAC

Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sy'n derbyn eu canlyniadau haf 2025 heddiw

Heddiw, bydd myfyrwyr ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau ar gyfer y cymwysterau Safon Uwch, UG, Lefel 3, a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. 

Canlyniadau Safon Uwch Cymru 

  • Enillodd 97.5% o'r myfyrwyr yng Nghymru raddau A* - E  
  • Enillodd 10.5% o fyfyrwyr radd A*  

Canlyniadau UG Cymru 

  • Enillodd 90.9% o fyfyrwyr raddau A - E  
  • Enillodd 22.7% o fyfyrwyr yng Nghymru radd A  

Lefel 3 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch  

  • Enillodd 95.9% o fyfyrwyr raddau A* - E 
  • Enillodd 5.6% o fyfyrwyr radd A* 
Yn ei sylw, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: “Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw. Mae'r canlyniadau hyn yn dystiolaeth o'r gwaith caled, ymroddiad, a gwydnwch a ddangoswyd ganddyn nhw wrth astudio. 

Ar ran CBAC, hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i'r athrawon, darlithwyr, a staff cefnogi yn yr ysgolion a cholegau am eu proffesiynoldeb diflino ac ymrwymiad i helpu'r myfyrwyr lwyddo unwaith eto eleni. 

Mae'r canlyniadau hyn yn garreg filltir bwysig ac yn arwain at gamau nesaf cyffrous - p'un a yw hynny'n addysg uwch, hyfforddiant, neu'n ymuno â'r byd gwaith. Pa bynnag lwybr maen nhw'n ei ddewis, hoffem ddymuno'r gorau i bob myfyriwr at y dyfodol." 


Ewch i'n tudalen gwe Diwrnod y Canlyniadau heddiw 

Er mwyn cefnogi myfyrwyr, athrawon a rhieni rydym wedi datblygu Tudalen Gwe Diwrnod y Canlyniadau bwrpasol. Ar y dudalen hon, fe welwch chi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi. Mae'n cynnwys manylion am Ffiniau Graddau, canllaw i'r broses apeliadau, a chysylltbwyntiau defnyddiol i gael cyngor ac arweiniad. 


Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau: 

Jonathan Thomas  
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand  
jonathan.thomas@cbac.co.uk 
029 2026 510