Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sy'n casglu eu canlyniadau Tachwedd 2025 heddiw
Heddiw, bydd dysgwyr ledled Cymru yn casglu eu canlyniadau dros dro ar gyfer cyfres arholiadau TGAU Tachwedd.
Yn ei sylw, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC:
“Llongyfarchiadau i'r holl fyfyrwyr sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw. Mae'r hyn a gyflawnwyd ganddynt heddiw yn adlewyrchu eu gwaith caled ac ymrwymiad drwy gydol eu hastudiaethau.
Ar ran CBAC, hoffwn ddiolch hefyd i athrawon, darlithwyr a staff mewn ysgolion a cholegau ledled y wlad am eu hymrwymiad hwythau a'r gefnogaeth a gynigir ganddynt i'r myfyrwyr o ran cyrraedd eu potensial yn llawn.”
Canlyniadau Dros Dro
Cyhoeddwyd canlyniadau ar gyfer y TGAU canlynol:
- Cymraeg Iaith
- Mathemateg
- Mathemateg – Rhifedd
- Saesneg Iaith
Gallwch weld y canlyniadau dros dro ar ein tudalen we Canlyniadau a Ffiniau Graddau .
Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau ac Apeliadau
Os yw dysgwr am gwestiynu'r marc a dderbyniodd, yna rydym yn ei gynghori i ddarllen yr arweiniad sydd ar gael ar y dudalen we ganlynol .
Rhaid cyflwyno unrhyw gais drwy'r ysgol/coleg a byddan nhw'n gallu cynghori ynghylch y camau nesaf.
Noder, gall ymgeiswyr preifat gysylltu'n uniongyrchol â'n timau i wneud cais am y gwasanaethau a nodir uchod.
Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau
Jonathan Thomas
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand
jonathan.thomas@cbac.co.uk
029 2026 5102