Llongyfarchiadau i enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022

Llongyfarchiadau i enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022

DA IAWN i bawb a gymerodd ran yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni – am wythnos wych o gystadlu, creadigrwydd a hwyl!

Aeth dros 118,000 o bobl i’r ŵyl wythnos o hyd yn Ninbych, y nifer uchaf erioed (gan gynnwys rhai a aeth i'r Eisteddfod am y tro cyntaf!). Unwaith eto, darparodd yr ŵyl gyfleoedd a phrofiadau unigryw i blant a phobl ifanc o bob rhan o'r wlad.

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y gwobrau a noddwyd gennym wedi mynd i:

Ela a Non, Ysgol Tryfan, Bangor – Cystadleuaeth 19: Deuawd Blwyddyn 10 a dan 19 oed

ac

Ensemble Ysgol Bro Morgannwg, Caerdydd a'r Fro – Cystadleuaeth 30: Ensemble Lleisiol Blwyddyn 10 a dan 19 oed

Dyma oedd gan Jonathan Thomas, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand, i'w ddweud am  yr enillwyr: “Ar ran pob un ohonom yn CBAC, llongyfarchiadau mawr i’r holl ymgeiswyr ac yn enwedig i’r enillwyr. Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn gyfle gwych i ddathlu diwylliant ieuenctid, y gymuned addysg, a’r iaith Gymraeg.

Rydym eisoes yn cyfri'r dyddiau tan yr Eisteddfod nesaf.  Welwn ni chi yno!

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch Twitter: @EisteddfodUrdd / Facebook: @eisteddfodurdd / Instagram: eisteddfodurdd