Lliwddallineb yn yr ystafell ddosbarth – 5 ffordd i helpu dysgwyr â diffyg golwg lliw

Lliwddallineb yn yr ystafell ddosbarth – 5 ffordd i helpu dysgwyr â diffyg golwg lliw

Gall lliw fod yn adnodd defnyddiol yn yr ystafell ddosbarth, i roi cyferbyniad mewn diagramau, graffiau a siartiau neu i wneud deunyddiau addysgu yn fwy diddorol a bywiog. Ond i rai dysgwyr, gall fod yn rhwystr hefyd. Mae Carly Hill-Banks, Cynghorydd Golygyddol a Hygyrchedd CBAC/Eduqas yn esbonio:

Mae diffyg golwg lliw (CVD), neu efallai y byddwch chi’n ei adnabod fel lliwddallineb, yn effeithio ar 1 o bob 12 o fechgyn (8%) ac 1 o bob 200 o ferched (0.5%). Yn y DU mae tua 450,000 o ddisgyblion oedran ysgol yn lliwddall. Yn ystadegol, mae hyn yn golygu y bydd gan o leiaf un plentyn ym mhob ystafell ddosbarth ryw fath o liwddallineb.

 

 

Sut mae diffyg golwg lliw yn effeithio ar ddysgwyr

Oherwydd cyfuniad o ffactorau, yn cynnwys diffyg ymwybyddiaeth ac absenoldeb sgrinio rheolaidd, ni fydd y rhan fwyaf yn cael diagnosis yn ystod eu hamser yn yr ysgol. Gall hyn roi dysgwyr â CVD dan anfantais pan fydd arholiadau neu weithgareddau ystafell ddosbarth yn dibynnu ar liw.

Mae rhai meysydd pwnc yn arbennig o anodd i'r dysgwyr dan sylw, fel Daearyddiaeth. Mae Erin Roberts, Swyddog Pwnc UG/Safon Uwch Daearyddiaeth yn CBAC yn esbonio:

“Gydag amrywiaeth o ffotograffau, graffiau, mapiau a diagramau i'w dehongli, gall gwersi daearyddiaeth fod yn arbennig o heriol i ddysgwyr â diffyg golwg lliw. Lliw yn aml yw'r brif elfen sy’n cael ei ddefnyddio i wahaniaethu rhwng gwahanol nodweddion a setiau data.”

 

Chwith: Golwg lliw arferol. De: Efelychiad diffyg golwg lliw (CVD)

 

Er bod Daearyddiaeth yn cynnig rhai enghreifftiau amlwg o'r problemau gall lliwddallineb eu hachosi i fyfyrwyr, mae problemau posibl ym mhob maes pwnc. Mae'r dyfyniad hwn gan Josh, dysgwr ifanc â CVD, yn tynnu sylw at yr anawsterau a wynebodd mewn gwersi mathemateg:

“Roedd llawer o fy ngwaith cwrs yn dibynnu ar liwiau ar gyfer graffiau. Roedd hyn yn peri anhawster i mi a byddwn yn poeni am bapurau arholiad gydag adrannau lliw. Pan fydd papurau arholiad yn ddu a gwyn, fydda’ i ddim yn cael problemau o ran deall gwybodaeth. Mae fy athro mathemateg presennol yn defnyddio gwybodaeth yn PowerPoint lle mae'r cefndir a'r testun yn rhy debyg, felly mae'n rhaid i mi ddibynnu ar fy ffrindiau i ddweud wrtha' i beth sy'n cael ei ddweud.”


 

Gwella hygyrchedd o ran diffyg golwg lliw (CVD)

Yn CBAC, rydym wedi bod ar flaen y gad ers tro yn creu deunyddiau asesu hygyrch ar gyfer dysgwyr y mae CVD yn effeithio arnynt. Yn 2020 buom yn gweithio'n agos â Colour Blind Awareness i greu canllaw cynhwysfawr ar gyfer datblygu deunyddiau asesu, ac ers hynny mae gweithgor diffyg golwg lliw (CVD) yn cynnwys y prif fyrddau arholi wedi'i sefydlu i rannu arbenigedd ac adnoddau.

Mae'r gwersi rydyn ni wedi'u dysgu ynghylch cynnwys cyfeillgar i ddysgwyr â diffyg golwg lliw yr un mor ddefnyddiol wrth greu papurau arholiad ag yr ydyn nhw i athrawon sy'n creu eu cynnwys eu hunain ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Dyma rai syniadau ar sut gallwch chi wneud eich deunyddiau addysgu yn fwy hygyrch, gydag enghreifftiau o'r maes pwnc Daearyddiaeth sy'n gallu bod yn arbennig o heriol i ddysgwyr â CVD:

 


 

Ein hawgrymiadau ar gyfer creu deunyddiau addysgu cynhwysol o ran diffyg golwg lliw

 

1. Osgoi cyfleu gwybodaeth drwy ddefnyddio lliw yn unig

Enghraifft o arfer da wrth ddefnyddio mwy nag un dull ochr yn ochr â lliw i gyfleu gwybodaeth mewn graff llinell.


Gyda diffyg golwg lliw, mae'n anodd gweld gwahaniaethau mewn lliw, a gall hynny amharu'n llwyr ar ystyr delwedd neu ddiagram. Lle bynnag y bo'n bosibl, rhowch ail ddangosydd i dynnu sylw at wybodaeth allweddol yn ogystal â lliw, neu yn lle lliw. Gallai hyn gynnwys patrymau, gwead, labelu, tanlinellu, print trwm neu feintiau ffont gwahanol. Os oes angen i chi gynnwys allwedd, gwnewch yn siŵr ei bod o faint darllenadwy a'i bod yn cyfateb i'r dangosyddion a ddewiswyd gennych yn glir.

 

2. Gwirio eich deunyddiau mewn graddlwyd

Enghraifft o arfer da o ran sut i gyfleu gwybodaeth mewn graddlwyd



Argraffwch eich taflenni addysgu a'ch sleidiau presennol mewn graddlwyd / du a gwyn ac edrychwch i weld a allwch chi eu deall o hyd. Yn well fyth, gofynnwch i rywun nad yw erioed wedi'u gweld o'r blaen a all wneud synnwyr ohonynt heb liw. Os nad yw'n gallu, ystyriwch ddefnyddio rhai o'r dangosyddion uchod i roi mwy o eglurder.

Ar gyfer deunyddiau yn y dyfodol, ystyriwch eu dylunio heb liw yn gyntaf, gan ychwanegu lliw yn ddiweddarach (os oes ei angen!) unwaith y bydd yr ystyr yn glir.

 

3. Peidio â thybio

Chwith: Golwg lliw arferol. De: Efelychiad diffyg golwg lliw (CVD)


Mae'n hawdd tybio y gall pawb ddweud y gwahaniaeth rhwng dau liw gwahanol iawn, ond nid yw hyn bob amser yn wir. Er enghraifft, gall llinell goch lachar ar fap fod yn amlwg i rywun heb ddiffyg golwg lliw, ond gall fod bron yn anweledig i bobl sydd â rhai mathau o liwddallineb.

Mae'r syniad bod lliwddallineb wedi'i gyfyngu i goch a gwyrdd yn gamsyniad cyffredin hefyd. Mewn gwirionedd mae llawer o amrywiadau o ran sut mae pobl â diffyg golwg lliw yn gweld lliw.

 

4. Ystyried lliwiau gwrthgyferbyniol

Chwith: Golwg lliw arferol. De: Efelychiad diffyg golwg lliw (CVD)


Sicrhewch fod testun ac unrhyw labelu'n sefyll allan o'r cefndir bob amser – mae hyn yn bwysig o ran hygyrchedd ar bob lefel, ond yn enwedig i ddysgwyr â diffyg golwg lliw. Gall lliwiau pastel ac arlliwiau llwyd fod yn arbennig o heriol i'w darllen. Du ar wyn neu wyn ar ddu fydd yn cynnig y gwrthgyferbyniad mwyaf posibl bob amser. Gall ffotograffau achosi problemau hefyd, fel yn yr enghraifft uchod.


5. Defnyddio'r adnoddau a'r wybodaeth sydd ar gael

Mae digon o adnoddau a ffynonellau gwybodaeth defnyddiol ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein a all eich helpu i ddeall CVD yn well, a sut i ddylunio deunyddiau addysgu i fod mor hygyrch â phosibl: