Glanhau eich corff a'ch meddwl

Llesiant: Glanhau eich corff a'ch meddwl

Tywydd cynhesach, bylbiau'n blodeuo, ac ŵyn bach yn prancio – mae'r gwanwyn wedi cyrraedd! Ac felly, wrth i ni ffarwelio â dyddiau oer a thywyll y gaeaf a chroesawu'r heulwen, pa amser gwell i ail-ddeffro eich corff, rhoi hwb i'ch llesiant, a rhoi gweddnewidiad tymhorol i chi'ch hun.

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Dilynwch ein hawgrymiadau ar gyfer gofalu amdanoch eich hun a byddwch yn blodeuo'r tymor hwn.


Gwedd newydd ar fywyd
Wedi diflasu ar y drefn undonog hon rydych chi wedi syrthio iddi ac na allwch ddianc rhagddi? Gadewch i ni edrych eto ar eich set sgiliau. Mae amrywiaeth o fanteision i ddysgu rhywbeth newydd, o roi hwb i'ch hunan-barch a chynyddu eich hyder, i roi ymdeimlad o bwrpas i chi. Felly, mae'n amser mentro ac ymuno â'r dosbarth Salsa rydych chi wedi bod yn meddwl amdano ers y bennod gyntaf o Strictly Come Dancing! Byddwch yn ddewr ac ewch amdani – byddwch chi'n teimlo fel eich hun eto mewn dim o amser.

Cymerwch saib o'r sgrin
Hyd yn oed pan nad ydym yn y gwaith, rydyn ni byth a beunydd yn edrych ar sawl llwyfan cyfryngau cymdeithasol, ac yn edrych ar negeseuon e-bost a negeseuon testun drwy'r dydd – ac mae'n flinedig! Rydyn ni'n meddwl ei bod hi'n amser dadwenwyno digidol! Beth am dreulio’r penwythnos hwn yn datgysylltu? Pan yn bosib, diffoddwch eich ffôn symudol, dylech osgoi dyfeisiau electronig, a byddwch yn ymwybodol o'ch hunain. Yng ngeiriau Ferris Bueller, “Life moves pretty fast. If you don't stop and look around once in a while, you could miss it.”

Pam bod mor ddifrifol?
Treuliwch funud neu ddwy yn gofyn i chi’ch hun – "Beth sy'n fy ngwneud i'n hapus? Beth sy'n dod â llawenydd i mi?" Efallai mai canu yn y glaw ydyw? Mynd â'ch ci am dro? Neu gynnau'r barbeciw yn eich gardd gefn? Beth bynnag ydyw, gadewch i'r hormonau sy'n gwneud i chi deimlo'n dda lifo drwy wneud rhywbeth sy'n gwneud i chi wenu – bob dydd.

Cliriwch yr annibendod
Angen mwy o le i anadlu? Rydyn ni'n eich clywed chi! Mae'n amser trefnu pethau. Mae cael trefn yn gwneud i ni deimlo'n hapusach ac mewn rheolaeth. Bydd clirio yn eich annog i wneud penderfyniadau gweithredol ynglŷn â'r hyn sy'n perthyn i'ch bywyd. Mae'n golygu canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i chi – cyfle i ryddhau annibendod materol yn ogystal ag annibendod emosiynol. Cyfrannwch, ailgylchwch neu gwerthwch eich eitemau diangen. Gofynnwch i chi eich hun "a yw'n dod â llawenydd i mi?". Os "nac ydy" yw'r ateb, rydych chi'n gwybod beth i'w wneud!

Adnewyddwch eich gweithfan
P'un a ydych gartref, neu yn y swyddfa, gwnewch yn siŵr bod gennych le penodol i weithio sy'n cefnogi cynhyrchiant. Rhowch unrhyw bapur mewn ffeil, glanhewch eich desg, a thaflwch unrhyw annibendod. A pheidiwch ag anghofio rhoi trefn ar eich annibendod digidol hefyd! Fel mewnflwch e-bost sy'n gorlifo, mae bwrdd gwaith cyfrifiadur sydd wedi'i orlwytho yn tynnu sylw ac yn anodd ei ddefnyddio.

Awgrym: Gall ychwanegu planhigyn at eich gweithfan helpu i leihau straen, rhoi hwb i greadigrwydd, a'ch gwneud yn fwy cynhyrchiol! Pwy arall sy'n mynd i'r ganolfan arddio'r penwythnos hwn?

Symudwch eich corff
Rydym yn deall eich bod wedi'i glywed fil o weithiau, ond gall ymarfer corff rheolaidd wir fod yn gymorth i chi fyw bywyd iachach a hapusach. Ceisiwch fod yn weithgar bob dydd – mae pob munud yn cyfrif! Dylai oedolyn anelu at gael o leiaf 150 munud o ymarfer corff bob wythnos. Bydd hyn yn helpu i leihau pwysedd gwaed, lleihau colesterol, a chadw'ch pwysau ar lefel iach. Os nad ydych chi'n gwneud ymarfer corff, dechreuwch yn araf a rhannwch hyn yn sesiynau y gellir eu rheoli.

Beth am chwilio am ffyrdd newydd a chyffrous o gadw'n heini fel teulu? Mae dawnsio, sglefrolio, nofio neu feicio i gyd yn ffurfiau gwych o ymarfer cardio – ac yn hwyl hefyd!

Ewch i gerdded
Mae newid ar dro; mae Gwanwyn yn ein hannog i osod rhai nodau a dod yn fyw. Mae teimlo'n dda ynghylch y dyfodol yn bwysig ar gyfer ein hapusrwydd. Mae angen nodau ar bob un ohonom i'n cymell ni ac mae'n rhaid i'r rhain fod yn ddigon heriol i'n cyffroi ni, ond hefyd yn gyraeddadwy. Peidiwch â rhoi cynnig ar yr amhosibl, bydd hyn yn achosi straen diangen! Mae dewis nodau uchelgeisiol ond realistig yn rhoi cyfeiriad i'n bywydau ac yn dod ag ymdeimlad o foddhad a llwyddiant pan fyddwn yn eu cyflawni.

Felly, ewch amdani! Meddyliwch am nod rydych chi'n anelu ato a gwnewch un peth i ddechrau arno. Codwch y ffôn, llenwch y ffurflen, neu dywedwch wrth eraill amdano yn unig - cymerwch y cam cyntaf!

Gwledd bwyd ffres
Bwytewch ddeiet maethlon a chytbwys er mwyn gwella iechyd eich calon a’ch ymennydd. Rhowch yr holl fwydydd di-liw sgrwtshlyd hynny o'r neilltu a dewiswch enfys fywiog. Mae bwyta'r bwydydd cywir yn rhoi digon o egni i ni gadw'n heini ac yn weithgar, ac yn ein helpu i fwynhau bywyd i'r eithaf. Ar eich taith nesaf i'r archfarchnad, llwythwch y troli gyda ffrwythau a llysiau lliwgar, fel cêl, sbigoglys, betys, a riwbob. Nid yn unig eu bod yn flasus ac yn llawn maetholion iach i'r galon, ond maent hefyd yn hynod amlbwrpas