Lansio ein Hadolygiad Blynyddol 2024-25

Rydym yn falch o gyhoeddi ein Hadolygiad Blynyddol 2024/25  – gan roi cipolwg ar ein llwyddiannau a'n cyflawniadau yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. 

Mae'r cyhoeddiad yn tynnu sylw at ein cynnydd wrth i ni barhau i gydweithio'n agos â'r gymuned addysg i alluogi dysgwyr Cymru i gyrraedd eu llawn botensial. 

Yn ei sylwadau am yr Adolygiad Blynyddol, dywedodd y Prif Weithredwr, Ian Morgan:

"Mae'r Adolygiad Blynyddol eleni yn adlewyrchu blwyddyn arall o gynnydd sylweddol mewn addysg yng Nghymru. Mae'n arddangos rôl ganolog a pharhaus CBAC yn y gwaith o ddylunio cymwysterau sy'n wir adlewyrchu tirwedd addysgol unigryw Cymru. Mae ein cyhoeddiad yn dyst i bwysigrwydd cydweithredu, arloesi, a'n hymrwymiad cadarn i ddysgwyr. Mae'r adolygiad yn tynnu sylw at sut rydym yn addasu i newid, gan sicrhau bod ein cymwysterau'n parhau'n berthnasol, cynhwysol a blaengar. Mae'r adolygiad hwn yn dangos ein hymroddiad parhaus i rymuso dysgwyr a chefnogi addysgwyr mewn byd sy'n parhau i esblygu." 


Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:  

  • Llwyddiant cymwysterau Ton 1 Gwneud-i-Gymru: Taith o gefnogaeth cynhwysfawr - o Ddysgu Proffesiynol wyneb yn wyneb ar draws Cymru i gyfres lawn o Adnoddau digidol addasadwy RHAD AC AM DDIM - gan gynnig popeth sydd ei angen ar athrawon a darlithwyr i gyflwyno'r cymwysterau newydd a chyffrous hyn yn hyderus. 
  • Cefnogi esblygiad cymwysterau: Mae gan CBAC dros 75 mlynedd o brofiad o ddylunio a datblygu cymwysterau dibynadwy ar gyfer dysgwyr yng Nghymru - traddodiad sy’n ein gwneud ni’n bartner naturiol ar gyfer y cynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 oed llawn. 
  • Tu hwnt i'r ystafell ddosbarth: O ymgysylltu â llunwyr polisïau Cymru i ddathlu yn yr Eisteddfod, rydym yn cysylltu â rhanddeiliaid i ddeall realiti addysg yng Nghymru a chryfhau ein safle wrth galon y gymuned addysg.  


Gallwch lawrlwytho’r Adolygiad Blynyddol yma. Byddem yn ddiolchgar am eich adborth, naill ai dros e-bost neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol – gan ddefnyddio #WJECAnnualReview. 

Cofrestrwch ar gyfer ein bwletinau e-bost i dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gwaith a dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf. 

Ydych chi am ymuno â ni yng Nghynhadledd Flynyddol ColegauCymru 2025?
Nesaf