Jessica Leigh Jones, Is-gadeirydd a Steffan Edwards, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes i arwain trafodaeth banel ar flaenoriaethau Strategaeth Lled-ddargludyddion y DU

Jessica Leigh Jones, Is-gadeirydd a Steffan Edwards, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes i arwain trafodaeth banel ar flaenoriaethau Strategaeth Lled-ddargludyddion y DU

Bydd Jessica, ein Is-gadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol Iungo Solutions a Steffan yn ymuno â phanel o arweinwyr diwydiant a llunwyr polisi uchel eu parch i gyflwyno cyfres o seminarau a thrafodaethau panel mewn cynhadledd bolisi Fforwm Busnes Westminster i archwilio diwydiant Lled-ddargludyddion y DU.

Mewn sylw ar gymryd rhan yn y gynhadledd flaenllaw, dywedodd Steffan Edwards, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, CBAC: "Mae'r DU yn gartref i nifer cynyddol o gyrff a busnesau yn y diwydiant Lled-ddargludyddion sy'n tyfu'n gyflym. Mae Jessica a minnau'n edrych ymlaen at archwilio sut gall cyrff dyfarnu a busnesau gefnogi twf yn y maes allweddol hwn, tra hefyd yn cysylltu â blaenoriaethau cenedlaethol ehangach fel lefelu i fyny a sero net.

'Yn ein trafodaeth, byddaf yn cyflwyno cyfres newydd o gymwysterau lled-ddargludyddion, a fydd yn arfogi dysgwyr â'r wybodaeth a'r sgiliau i fanteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth hyn, a sicrhau bod gan fusnesau fynediad i'r gweithlu medrus hwn sydd eu hangen arnynt.

‘Mae cynadleddau fel y rhain yn hynod bwysig gan ein galluogi i gyflwyno ein syniadau mewn fforwm agored, wrth ddarparu cyfleoedd ar gyfer trafodaethau a dadleuon adeiladol hefyd.”

Jessica Leigh Jones

Is-gadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol Iungo Solutions

Steffan Edwards

Cyfarwyddwr Datblygu Busnes

Bydd Jessica a Steffan yn arwain sesiwn o'r enw 'Cysylltu strategaeth lled-ddargludyddion y DU â blaenoriaethau cenedlaethol ehangach, gan gynnwys lefelu i fyny a sero net, lle byddant yn archwilio uchelgeisiau'r diwydiant a sut bydd hyn yn cyd-fynd ac yn cefnogi nodau eraill y llywodraeth.

Cynnwys y Gynhadledd

Bydd y gynhadledd ar-lein yn cael ei chynnal ddydd Gwener 16 Chwefror, a bydd yn archwilio blaenoriaethau ar gyfer diwydiant Lled-ddargludyddion y DU, mewn meysydd sy'n cynnwys twf, gwytnwch a diogelwch.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys prif sesiynau gan Dr Jalal Bagherli, Cadeirydd, Probe Test Solutions; a Chyd-gadeirydd, Panel Cynghori Lled-ddargludyddion y DU; a Dr Drew Nelson OBE, Llywydd a Chyfarwyddwr Anweithredol, IQE.

Bydd cynrychiolwyr yn cael cyfle i drafod dyfodol y diwydiant hwn, ochr yn ochr â rhanddeiliaid allweddol a swyddogion polisi o amrywiaeth o gyrff.

I archebu'ch lle, ewch i wefan Westminster Forum Projects.