Hyfforddiant rhad ac am ddim – cynyddu amrywiaeth yn y meysydd Drama ac Astudiaethau Ffilm

Hyfforddiant rhad ac am ddim – cynyddu amrywiaeth yn y meysydd Drama ac Astudiaethau Ffilm

Mae'n bleser gennym gyhoeddi, fel rhan o'n hymrwymiad i sicrhau amrywiaeth yn narpariaeth ein cymwysterau, bydd timau’r  pynciau yn cyflwyno cyfres o gyrsiau hyfforddi RHAD AC AM DDIM ar gyfer ein cymwysterau Drama ac Astudiaethau Ffilm. 

Lluniwyd y sesiynau dwy awr o hyd hyn i alluogi athrawon/darlithwyr i gynyddu'r amrywiaeth yn eu cynlluniau gwaith ar gyfer Drama ac Astudiaethau Ffilm.  

Bydd pob sesiwn yn cynnig dewis o lwybrau gwahanol drwy'r manylebau i'r sawl sy'n bresennol, gan ganolbwyntio ar destunau sy'n gallu cynnig amrywiaeth fwy o safbwyntiau a chynrychioliadau. Bydd y sesiynau hefyd yn darparu dulliau ymarferol a gweithgareddau a fydd yn galluogi dysgwyr i gael mynediad at amrywiaeth eang o destunau ac i ddeall eu pwysigrwydd. Byddan nhw hefyd yn trafod dadleuon amserol a chyfoes, a sut gellir cyflwyno'r rhain i'r ystafell ddosbarth.  

Defnyddiwch y cysylltau isod i gadw eich lle: 

Ein bwriad yw cynnal cyrsiau ychwanegol ar gyfer llawer o'n pynciau, ond os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau, anfonwch e-bost at dpp@cbac.co.uk.