
Heb gael y Canlyniadau Safon Uwch roeddech chi'n gobeithio amdanynt? Dyma beth i'w wneud nesaf
Felly, nid oedd diwrnod y canlyniadau wedi mynd fel roeddech chi wedi'i ddychmygu. Yn gyntaf oll, cymerwch anadl. Nid ydych chi ar eich pen eich hun, ac nid dyma ben y daith. Mae mwy o lwybrau nag y byddech chi'n meddwl, ac mae'r un gorau i chi ar gael o hyd.
Dyma ganllaw i'ch helpu i ddarganfod beth gallai eich camau nesaf fod.
Peidiwch â mynd i banig
Mae'n hollol normal teimlo wedi eich llethu neu'n siomedig. Cymerwch eiliad dawel i chi'ch hun. Ewch am dro, siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo, neu cymerwch eiliad mewn tawelwch. Mae penderfyniadau'n haws i'w gwneud pan fydd eich meddwl yn dawel.
1: Ailsefyll eich arholiadau
Os ydych chi bron wedi cael y graddau roeddech chi eu hangen, neu os oes gennych chi gynllun clir sy'n dibynnu ar gael canlyniadau uwch, efallai mai ailsefyll eich cymwysterau Safon Uwch yw'r dewis cywir.
Meddyliwch am y canlynol:
- Pa bynciau y byddech chi'n eu hailsefyll
- P'un a ydych chi'n barod i ymrwymo i flwyddyn arall o astudio
- Os yw'r cwrs, y brifysgol, neu'r swydd rydych chi ei eisiau/ei heisiau wir angen y graddau uwch hynny
Siaradwch â'ch ysgol neu'ch coleg i weld pa gefnogaeth y gallant ei chynnig ar gyfer ailsefyll.
2: Gofyn am ailfarcio
Ydych chi'n meddwl bod eich papur wedi'i farcio'n anghywir? Gallwch chi ofyn am adolygiad o'r marcio neu ailwiriad clerigol. Ond byddwch yn ymwybodol o'r canlynol:
- Gall marciau fynd i fyny neu i lawr
- Rhaid gofyn amdano drwy Swyddog Arholiadau eich ysgol
- Mae yna ddyddiadau cau – felly os yw hyn yn rhywbeth rydych chi'n ei ystyried, gofynnwch amdano cyn gynted â phosibl.
3: Gwneud cais drwy'r broses glirio
Heb gwrdd â'ch cynnig prifysgol? Gallai'r broses glirio fod y peth i chi. Mae'n system lle mae prifysgolion yn rhestru lleoedd sydd ar gael ar gyrsiau, ac efallai y byddant yn dweud ie wrthych, hyd yn oed os nad oeddent ar eich rhestr gyntaf o opsiynau.
Mae'r broses glirio yn ddelfrydol os ydych chi:
- yn agored i astudio yn rhywle newydd
- yn hyblyg o ran cyrsiau
- eisiau mynd i'r brifysgol eleni
Ewch ar dudalen UCAS Clearing am gyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf.
4: Cymryd blwyddyn i ffwrdd
Ddim yn siŵr beth i'w wneud eto? Mae hynny'n hollol iawn. Mae blwyddyn i ffwrdd yn rhoi amser i chi wneud y canlynol:
- Teithio neu weithio dramor
- Ennill profiad mewn swydd yn agos at gartref
- Ailymgeisio i'r brifysgol y flwyddyn nesaf gyda phen cliriach (ac efallai gyda graddau gwell hyd yn oed)
Nid yw hwn yn gam yn ôl, mae'n gyfle i ddechrau o'r newydd ac i wneud penderfyniadau mwy hyderus yn nes ymlaen.
Siaradwch â rhywun
Beth bynnag rydych chi'n ei feddwl ar hyn o bryd, nid oes rhaid i chi ddatrys y cyfan ar eich pen eich hun. Siaradwch ag:
- Athro neu ymgynghorydd gyrfaoedd
- Eich rhieni neu'ch gofalwyr
- Rhywun sy'n eich adnabod chi ac sy'n gallu eich helpu i weld eich cryfderau
Gallant eich cefnogi neu eich cyfeirio tuag at gyngor arbenigol.
Efallai y bydd heddiw yn teimlo fel rhwystr, ond gallai hefyd fod yn ddechrau rhywbeth anhygoel nad oeddech wedi'i gynllunio eto. Y peth mwyaf pwysig? Daliwch ati, mae llawer o lwybrau ar gael i chi.
Mi fyddwch chi'n iawn 💪