Haf 2022: Trefniadau wrth gefn

Haf 2022: Trefniadau wrth gefn

Trefniadau wrth gefn HAF 2022: Diweddariad i ganolfannau sy'n cyflwyno cymwysterau CBAC TGAU ac UG/Safon Uwch wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru

Deallwn fod hwn yn gyfnod heriol i ganolfannau a dysgwyr ac roeddem yn awyddus i sôn wrthych am y wybodaeth, yr arweiniad a'r gefnogaeth ddiweddaraf sydd ar gael i chi a'ch cydweithwyr wrth i chi gynllunio a pharatoi ar gyfer haf 2022.

Isod, mae crynodeb fer o’r wybodaeth ddiweddaraf gennym i ganolfannau:

Dogfen Arweiniad ar drefniadau asesu wrth gefn Cymwysterau Cymru (os nad yw'n bosibl cynnal arholiadau)

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei ddogfen arweiniad ar drefniadau asesu wrth gefn ar gyfer haf 2022 i'w defnyddio os na fydd yn bosibl cynnal arholiadau.

Gallwch lawrlwytho arweiniad Cymwysterau Cymru yma.

Trefniadau wrth Gefn: Deunyddiau canllawiau canolfannau

Rydym yn datblygu'r deunyddiau canlynol i gefnogi canolfannau â'u trefniadau wrth gefn:

  • Fframweithiau Asesu Cymwysterau
  • Canllawiau Canolfannau ar greu deunyddiau asesu
  • Canllawiau i gefnogi canolfannau wrth iddynt asesu perfformiad dysgwyr yn wrthrychol

Bydd y canllawiau hyn ar gael i ganolfannau eu gweld ar ein Gwefan Ddiogel Gwefan Ddiogel erbyn diwedd dydd Gwener 5 Tachwedd. 

Mae ein timau'n parhau i fod wrth law i gynnig cefnogaeth ac arweiniad i chi. Edrychwn ymlaen at eich cefnogi chi wrth i chi barhau i gynllunio a pharatoi yn ystod yr wythnosau i ddod.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.