Haf 2022 – paratoi ar gyfer yr arholiadau

Haf 2022 – paratoi ar gyfer yr arholiadau

Wrth i ni edrych ymlaen at wyliau'r Pasg, rwy'n siŵr bod pawb yn dal i ganolbwyntio ar gynllunio a pharatoi ar gyfer arholiadau’r haf hwn.

I lawer o ddysgwyr, hwn fydd y tro cyntaf erioed iddynt sefyll asesiad allanol, ac er y gall hyn godi ofn ar rai, hoffwn eich sicrhau ein bod wedi rhoi pecyn o fesurau ar waith i wneud iawn am amser addysgu a dysgu a gollwyd, ac y bydd arholiadau eleni yn gytbwys ac yn deg.

Fel y gwyddoch, rydym wedi gwneud amrywiaeth o addasiadau i'n cymwysterau. Rhannwyd y rhain ag ysgolion a cholegau fis Gorffennaf diwethaf fel y gallent gynllunio eu haddysgu cyn gynted â phosibl.

Mae'r addasiadau'n amrywio o bwnc i bwnc, ond mae llai o gynnwys i'w asesu, mae llai o ofynion yn yr Asesiad Di-arholiad, ac mae cwestiynau dewisol ar gyfer rhai cymwysterau. Ar gyfer pynciau eraill, lle nad oedd modd i ni wneud newidiadau sylweddol, rydym wedi rhannu Gwybodaeth Ymlaen Llaw fel ffordd arall o helpu dysgwyr i ganolbwyntio eu hadolygu.

Rydym hefyd wedi ehangu ein darpariaeth o adnoddau addysgu a dysgu, sy'n cynnwys mwy na 3,000 o Fodiwlau Dysgu Cyfunol, Trefnwyr Gwybodaeth, Adnoddau Pontio ac Adnoddau Arweiniad i'r Arholiad newydd.

Mae popeth wedi'i gynllunio'n benodol i gefnogi'r gwaith o gyflwyno ein cymwysterau ac i helpu dysgwyr i adolygu. Mae hyn yn ychwanegol at yr adnoddau helaeth presennol rydym eisoes yn eu cynnig. Gellir cael gafael ar y rhain yn rhad ac am ddim ar ein gwefan Adnoddau Digidol.

Mae'n bwysig bod y gymuned addysg yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi dysgwyr, a dyna pam rydym yn falch o rannu ein harbenigedd ag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a Gyrfa Cymru yn ein hymgyrch 'Lefel Nesa' ar y cyd.

Drwy'r ymgyrch, a lansiwyd ym mis Mawrth, bydd dysgwyr yn gallu cael mynediad at amrywiaeth o adnoddau a deunyddiau defnyddiol i'w helpu drwy'r arholiadau, ac i'w paratoi ar gyfer y camau nesaf yn eu bywydau. Mae hwb cynnwys Lefel Nesa i'w weld yma, ac rwy'n eich annog i rannu hwn â'ch cydweithwyr a'ch rhwydweithiau.

Gan adeiladu ar ein hymrwymiad i gydweithio, a ffurfio perthnasoedd newydd, mae wedi bod yn braf cael cyfarfod cynrychiolwyr allweddol o'r cymunedau busnes ac addysg uwch yn ddiweddar.

Mae ymgysylltu fel hyn, a digonedd o drafodaethau a deialog, wir yn helpu i lywio ein cymwysterau a'r ffordd rydym yn gweithredu.

Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y gwaith o ddatblygu'r cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd. Hoffwn ddiolch i bawb ohonoch a oedd yn barod i ymateb yn ein gweithdai adborth. Yn dilyn gwaith datblygu helaeth, rwy'n falch o gyhoeddi ein bod bellach wedi cyflwyno ein drafft cyntaf i Cymwysterau Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at rannu'r newyddion diweddaraf â chi dros y misoedd nesaf.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus, a dymunaf y gorau i chi ar gyfer tymor yr haf.