Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gyfer arholiadau Haf 2023

Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gyfer arholiadau Haf 2023

Rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth ymlaen llaw ar y tudalennau pwnc ar yr hyn y mae cynnwys arholiadau haf 2023 yn canolbwyntio arno ar gyfer:

  • holl gymwysterau CBAC TGAU, UG a Safon Uwch (ar wahân i gymwysterau Celf a Dylunio nad oes asesiad arholiad ar eu cyfer) wedi’u rheoleiddio gan Cymwysterau Cymru
  • cymwysterau galwedigaethol penodol i Gymru (y gyfres Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant) wedi’u rheoleiddio gan Cymwysterau Cymru

Noder os gwelwch yn dda, nad oes Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gyfer y canlynol:

  • cymwysterau Eduqas TGAU, UG a Safon Uwch wedi’u rheoleiddio gan Ofqual a’u dynodi i’w defnyddio yng Nghymru gan Cymwysterau Cymru
  • ein holl gymwysterau galwedigaethol wedi’u rheoleiddio gan Ofqual.

Angen mwy o wybodaeth?

Os ydych yn athro, cysylltwch â'n timau pwnc os oes angen cymorth arnoch. Os ydych chi'n ddysgwr, eich athro sydd yn y sefyllfa orau i roi arweiniad pellach i chi.

Diweddariadau i Wybodaeth Ymlaen Llaw ers eu cyhoeddi.