Lun agos o nodiadau a sefydlog ysgol.

Gwobrau Arloesedd Ysgolion Cymru - 1999 i 2026

Wrth i'r Gwobrau Arloesedd gyrraedd carreg filltir o 25 mlynedd, rydym yn edrych yn ôl ar sut ddechreuodd y digwyddiad; gan sgwrsio gydag un o'i sylfaenwyr, Selwyn Gale.

Mae Selwyn wedi bod yn ganolog i sefydlu'r Gwobrau Arloesedd ac wedi parhau i gymryd rhan weithredol yn y digwyddiad blynyddol, sy'n arddangos gwaith project Dylunio a Thechnoleg dalentog ar lefel TGAU, UG a Safon Uwch. Mae'r gwaith yn cael ei gynnal yn rhan o unedau Asesiadau Di-arholiad CBAC, o fewn y system gymwysterau yng Nghymru. 

Gofynnwyd i Selwyn sut y ffurfiwyd y digwyddiad, a sut daeth yn ddyddiad cyffrous yng nghalendr yr ysgol. 

      Selwyn Gale yn derbyn Gwobr Cyflawniad Oes fel sylfaenydd y Gwobrau Arloesedd.  

Gwobrau Arloesedd Ysgolion Cymru - 1999 i 2026 

Sefydlwyd y Gwobrau Arloesedd yn 1999 mewn ymateb i ddymuniad tîm Arloesi yr Awdurdod Datblygu Cymru (ADC - Llywodraeth Cymru bellach) i ysgogi'r diwylliant Arloesi ymhlith pobl ifanc. Ar hyn o bryd mae'n cael ei drefnu ar y cyd gan CBAC a Llywodraeth Cymru. 

Gofynnodd yr ADC i mi gynnig argymhellion ar gyfer sefydlu cystadleuaeth Gymraeg newydd i fyfyrwyr ar lefel TGAU, UG a Safon Uwch, gyda'r nod o ysgogi arloesedd technolegol mewn ysgolion yng Nghymru.  

Fel athro, ymgynghorwr addysg sirol ac arolygwr ysgol, roeddwn yn chwarae rhan naill ai yn y broses o gyflwyno gwaith myfyrwyr fy hun i’r cystadlaethau neu'n beirniadu mewn llawer o'r cystadlaethau a oedd ar gael i ysgolion. Un enghraifft o hyn oedd  'Young Engineer for Britain', a oedd yn cydnabod gwaith y project arloesol.  

Does dim dwywaith amdani fod y cystadlaethau'n annog ac yn dathlu cyflawniad rhagorol, ond yn y bôn maen nhw'n gwobrwyo'r hyn sydd wedi cael ei wneud, yn hytrach na'r hyn y gellid ei wneud a’i chyflawni.  Dim ond arddangoswyr eraill sydd ar yr un lefel o ran eu haddysg sy’n gweld y gwaith, felly nid ydynt yn gwneud fawr ddim i ysgogi ac ysbrydoli’r rhai sydd i ddilyn.  Does dim byd gwell na myfyrwyr ac athrawon yn gweld yr hyn gellir ei gyflawni ar y cyrsiau maen nhw'n eu dilyn neu am eu dilyn.  

Fel Cynghorydd Addysg Sir yn Ne Morgannwg, dechreuais gynnal Gwobrau Arloesedd ar y cyd ag Allied Steel and Wire (ASW), gwneuthurwyr dur o Gaerdydd. Roedd y cwmni'n cyflwyno'r cysylltiadau rhwng y diwylliant a'r ysgolion ac yn annog arloesi. Roedd y gystadleuaeth hon yn sail i'n syniadau ynghylch cynnal digwyddiad cenedlaethol. Nod y digwyddiad oedd annog arloesedd yng ngwaith project y myfyrwyr ysgol, fel rhan o'r pwnc Dylunio a Thechnoleg newydd a ddatblygwyd. Roedd ysgolion yn gallu arddangos eu gwaith gorau yn ogystal â galluogi myfyrwyr i weld projectau ysgolion eraill y sir. Roedd gweld athrawon yn rhannu eu syniadau a chydweithio yn ganlyniad cadarnhaol arall. Roedd gwobrau’n cael eu rhoi fel anogaeth am y gwaith mwyaf arloesol, ond nid ennill gwobr oedd yr amcan canolog.

 


 

Gan ddefnyddio digwyddiad ASW fel man cychwyn ar gyfer cynnal cystadleuaeth dros Gymru gyfan, deuthum â CBAC ac ADC at ei gilydd i drafod y cynnig hwnnw. Mae gan CBAC gysylltiadau gyda phob ysgol uwchradd yng Nghymru a'r holl adnoddau i gysylltu â nhw a'u dylanwadu drwy'r system arholi, sy'n eu gwneud nhw'n bartner delfrydol ar gyfer cyflwyno'r digwyddiad. Yn fy rôl fel Cadeirydd a Phrif arholwr Dylunio a Thechnoleg, cydweithiais yn agos â'r Swyddog Pwnc (ar y pryd) Dr Alun McCarthy i bwysleisio arweinyddiaeth bosibl CBAC a sut y gallai'r digwyddiad ddylanwadu ar gynnwys y cwricwlwm a hyrwyddo arloesedd o fewn Dylunio a Thechnoleg tra hefyd yn cefnogi addysgu, archwilio a datblygu'r pwnc.

Wrth i'r digwyddiad ddatblygu, cafodd elfennau cefnogi ychwanegol eu cyflwyno yn y blynyddoedd dilynol. Er enghraifft, mynychodd Abel & Imray Patent Attorneys gyfarfodydd dethol gan roi cyngor pro bono rheolaidd i fyfyrwyr ac arwain nifer fach o brojectau drwy'r camau o feithrin eiddo deallusol. 

Mae Eiddo Deallusol bellach yn ymddangos mewn manylebau arholiad. Noddodd cwmni clyweledol gynhyrchiad CD ar gyfer pob ysgol uwchradd yng Nghymru, a oedd yn cynnwys delweddau o brojectau bob blwyddyn. Roedd hefyd yn cynnwys hyfforddiant i athrawon a hyfforddiant datblygu sgiliau disgyblion a gynhaliwyd ym mhob arddangosfa. Mae'r partneriaeth gyda ADC, Llywodraeth Cymru a CBAC wedi bod yn hanfodol wrth gyflwyno a datblygu'r digwyddiad a'i lwyddiant parhaus.  

Mae dwy arddangosfa, un yng Ngogledd Cymru ac un yn Ne Cymru, sy'n cynnwys tua 80 o waith project arloesol myfyrwyr sy'n cael eu harddangos yn unigol. Mae'r projectau'n cynrychioli'r gwaith fwyaf arloesol, wedi'u dewis o restr hir o brojectau a gyflwynwyd i CBAC gan ysgolion ar lefel TGAU, UG a Safon Uwch. Mae projectau’n cael eu henwebu gan yr ysgol neu ar argymhelliad cymedrolwyr sydd wedi ymweld â'r ysgol. Yn y cyfarfod dethol, mae cynrychiolwyr Abel & Imray Patent Attorneys hefyd yn dewis nifer fach o fyfyrwyr a fydd yn derbyn cyngor pro bono i ddiogelu Eiddo Deallusol yn briodol.  

Mae disgyblion a myfyrwyr Blwyddyn 9 ac uwch yn cael ymweld â'r arddangosfeydd gyda'u hathrawon, yn aml mewn grwpiau mawr i weld y projectau a chymryd nodiadau a ffotograffau. Maen nhw hefyd yn gallu mynychu sgyrsiau ar agweddau arloesi mewn dylunio a thechnoleg a gynhelir gan athrawon llwyddiannus a darlithwyr addysg uwch.

Bob blwyddyn, nod y digwyddiad yw ychwanegu gwerth trwy ymgorffori meysydd a allai fod o fudd i fyfyrwyr, megis hyfforddiant IOP a sesiynau modelu a braslunio. Gwahoddir hefyd nifer fach o arddangoswyr allanol o Brifysgolion a sefydliadau Technoleg ac Arloesi i'r digwyddiad i arddangos llwybrau gyrfa posibl i fyfyrwyr. Anogir athrawon i fynychu seminarau a drefnir gan CBAC ynghylch agweddau'r arholiadau a'r dulliau addysgu, ac mae adnoddau ar ôl y digwyddiad ar gael i bob ysgol; mae hyn bellach wedi symud o fod ar gael drwy CDs i fod ar gael ar-lein ar wefan CBAC. Hyd yn oed os nad yw ysgolion yn gallu mynychu'r digwyddiad, gallant dal elwa o'r Gwobrau Arloesedd gyda'r wybodaeth sydd ar gael yn hygyrch ar wefan CBAC. 

Mae panel o feirniad uchel eu parch yn ymgynnull ar ddiwrnod cyntaf yr arddangosfa gyntaf i ddewis y cyflwyniadau llwyddiannus ar lefel TGAU, UG a Safon Uwch. Mae gwobrau ariannol a thlysau yn cael eu rhoi ar bob lefel, a gwobrau ychwanegol ar gyfer Eiddo Deallusol, Creadigrwydd a chymhwyso’r Gwyddoniaeth. Mae pob myfyriwr y mae ei waith yn cael ei arddangos yn derbyn tystysgrif cyflawniad. Mae'r gwobrau hefyd yn gweithredu fel porth at gystadlaethau cenedlaethol eraill y DU a chynlluniau Gwobrau. 

  


   

Bob mis Rhagfyr cynhelir Seremoni Wobrwyo yn y Senedd ym mhresenoldeb gwesteion uchel eu parch, myfyrwyr a rhieni, gyda'r gwobrau fel arfer yn cael eu cyflwyno gan Weinidog Llywodraeth Cymru.  

Yn ei ddyddiau cynnar, cydnabyddiaeth o'r potensial yn hytrach na'r realiti a ganiataodd i'r digwyddiad barhau, ond roedd y cynnydd amlwg bob blwyddyn yn golygu ei fod yn fwyfwy diogel yn y rhaglen ysgol. Mae'r ymadrodd 'Nid mewn undydd y codwyd Rhufain’ yn dod i'r meddwl – mae newidiadau mewn safonau a dulliau athrawon yn cymryd amser i ddangos canlyniadau.  

I gloi, mae'r Gwobrau Arloesedd yn unigryw i Gymru, ac mae'r digwyddiad wedi helpu i feithrin diwylliant arloesi yn debyg i'r hyn a welwyd yn 1999. Mae'n parhau i fod yn un o'r blaenoriaethau yn strategaeth Llywodraeth Cymru, 'Arloesi Cymru'. Nid yn unig mae'r digwyddiad yn gwobrwyo cyflawniad rhagorol, ond yn bwysicach mae'n ysbrydoliaeth i fyfyrwyr ac athrawon. Mae'r arddangosfeydd bellach yn dangos yn glir faint sydd wedi newid gyda'r gwaith cynyddol ragorol ac ysbrydoledig a gynhyrchir gan fyfyrwyr mewn ysgolion yng Nghymru. Mae safon a dyfnder y gwaith arloesol sy'n cael ei gynhyrchu yn fy syfrdanu bob blwyddyn, ac yn dyst i hirhoedledd parhaus y digwyddiad a'i integreiddiad i'r cwricwlwm. 

 

Selwyn Gale