
Gwnewch eich Marc – Byddwch yn Arholwr
Os ydych chi'n gweithio mewn canolfan sy'n cynnig ein cymwysterau neu os yw marcio ein cymwysterau o ddiddordeb i chi, gwnewch gais heddiw ac ymunwch â'n tîm o dros 5,000 arholwr.
Manteision i chi
Drwy arholi, byddwch yn manteisio ar amrywiol gyfleoedd, yn cynnwys:
- Cefnogaeth gynhwysfawr sy'n bersonol a phroffesiynol
- Pecyn talu cystadleuol
- Ennill dealltwriaeth ychwanegol o sut mae eich pwnc yn cael ei asesu
- Gwybodaeth i'w dychwelyd i'r ystafell ddosbarth
- Patrymau gweithio hyblyg
Siaradodd Melanie Mears, un o arholwyr y pwnc Saesneg, am ei phrofiad fel arholwr: "Gwnaeth marcio amrywiaeth eang o ymatebion fy helpu i ddatblygu dealltwriaeth wych o'r meini prawf asesu; mae hefyd wedi gwella'r ffordd rydw i'n addysgu ac yn rhoi cyfle i mi weithio gyda thîm ardderchog o bobl broffesiynol. Rydw i'n ei argymell yn fawr!"
Manteision i'ch canolfan
Os ydych chi'n Brifathro, mae cael eich athrawon yn arholi yn cynnig amrywiaeth eang o fanteision i'ch canolfan, yn cynnwys:
- Effaith gadarnhaol ar ansawdd addysgu, dysgu ac asesu ar draws eich canolfan a gall wella cynnydd disgyblion
- Gwelliannau i brosesau asesu a chymedroli
- Data mewnol yn fwy dibynadwy, gan gynnwys rhagfynegiadau
- Adborth o ansawdd gwell i ddisgyblion
- Annog cydweithio rhwng adrannau
- Caniatáu cydweithio rhwng ysgolion
- Dangos pwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol i staff
Cyflwynwch gais heddiw
Er bod llawer o athrawon yn penderfynu cyflwyno ceisiadau yn ystod tymor y gwanwyn, gallwch gyflwyno cais i ymuno â'r tîm arholi a chymedroli o'r hydref ymlaen. Anogwn athrawon i gyflwyno cais yn awr er mwyn gwneud yn siŵr bod papurau'n cael eu dyrannu iddyn nhw ar gyfer cyfres asesu'r haf.
I arholi gyda ni, rhaid i chi fod â phrofiad o addysgu dros o leiaf dri thymor yn y cymhwyster penodol yr hoffech fod yn arholwr ar ei gyfer. Mae'r meini prawf yn llawn wedi'u hamlinellu ar ein gwefan, ac yno hefyd mae'r porth cyflwyno ceisiadau ar-lein www.cbac.co.uk/GwnewchEichMarc
Gwybodaeth Bellach:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â'r Tîm Arholwyr a Chymedrolwyr penodedig:
penodedigion@cbac.co.uk