Neges gan Ian Morgan, Prif Weithredwr, CBAC

Gwneud i Gymru. Yn barod am y byd: Ein cynnydd wrth ddatblygu cymwysterau newydd a fydd yn llywio dyfodol addysg yng Nghymru.

Rwy'n gobeithio bod y flwyddyn academaidd newydd wedi cael dechrau da a hoffwn fanteisio ar y cyfle i ailddatgan ein hymrwymiad i'ch cefnogi chi. Rydym yn parhau i'ch cynorthwyo chi a'ch timau gyda'n gwybodaeth bynciol arbenigol, canllawiau ar ein hamrediad eang o adnoddau dwyieithog sy'n rhad ac am ddim a gwybodaeth am amserlen gynhwysfawr y cyrsiau dysgu proffesiynol sydd ar gael.

Mae'r gwaith o gyd-awduro'r gyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig ar y gweill. Mae ein Tîm Datblygu Cymwysterau yn gweithio'n agos â'n harbenigwyr pwnc, awduron, adolygwyr a grwpiau Pynciol Ymgynghorol, gan ddefnyddio'u harbenigedd a'u mewnwelediadau helaeth i greu cyfres o gymwysterau cynhwysol a diddorol sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Er mwyn meithrin cynwysoldeb ac i ysbrydoli dysgwyr, rydym hefyd wedi sefydlu partneriaethau â chyrff megis Diversity and Anti-Racism Professional Learning (DARPL). Mae'r partneriaethau hyn yn cyfoethogi ein dull ac yn sicrhau bod ein cymwysterau yn grymuso pob dysgwr ac yn berthnasol iddynt.

I ategu ein hymdrechion cydweithredol helaeth, rydym yn sefydlu grwpiau rhanddeiliaid pwrpasol, gan gynnwys Grŵp Cynghori Dysgwyr. Rwy'n credu'n gryf ym mhwysigrwydd mynd ati i ofyn am farn ein rhanddeiliaid, gan fod eu safbwyntiau amrywiol yn eithriadol o werthfawr. Bydd eu mewnwelediadau yn allweddol wrth gyd-awduro cymwysterau sy'n alinio'n effeithiol â'r cwricwlwm newydd.

Er mwyn sicrhau tryloywder ac i gasglu adborth gwerthfawr, rwy'n falch o gyhoeddi ein bod wedi lansio ymgynghoriadau ynglŷn â'n cynigion lefel uchel o ran strwythur a ffocws yr asesu ar gyfer pob pwnc. Mae'r ymgynghoriad yn berthnasol i bynciau yng ngham cyntaf ein datblygiad a fydd ar gael i'w haddysgu o fis Medi 2025.

Hoffwn bwysleisio arwyddocâd yr ymgynghoriadau hyn gan eu bod yn rhoi llwyfan i chi gynnig adborth adeiladol. Drwy ein hymdrechion o gyd-awduro a'ch cyfraniad chi, byddwn yn creu cyfres newydd o gymwysterau a fydd wir o fudd i chi a'ch dysgwyr.

Gallwch weld yr ymgynghoriad ynglŷn â TGAU Gwneud i Gymru a chymwysterau cysylltiedig yma.

Gallwn eich sicrhau y byddwn yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf â chi drwy gydol y flwyddyn academaidd ynglŷn â'r cynnydd y byddwn ni'n ei wneud wrth ddatblygu'r cymwysterau cyffrous hyn.

Ar ôl llwyddiant ein Hadolygiad Blynyddol cyntaf, rwy'n falch o gyhoeddi yr Adolygiad Blynyddol newydd. Mae'r cyhoeddiad yn cydnabod ein llwyddiannau a'n cyflawniadau yn 2022/23. Mae hefyd yn tynnu sylw at ein cynnydd wrth i ni barhau i weithio'n agos gyda chi i alluogi dysgwyr Cymru i gyrraedd eu potensial yn llawn.

Wrth i ni barhau i ddathlu ein cyflawniadau, yn gynharach y mis hwn, cefais y fraint o weld lefel uchel o greadigrwydd yng ngwaith dysgwyr yn ein Harddangosfa Arloesedd yn ddiweddar. Heb os, bydd dyfeisgarwch ac arloesedd eu projectau yn gwneud y dasg o ddod i benderfyniad terfynol yn un heriol iawn i'r beirniaid. Mae'r cynnwrf eisoes yn adeiladu wrth i mi edrych ymlaen at y Seremoni Gwobrau Arloesedd sydd i ddod ym mis Rhagfyr. Bydd yr achlysur yn un i’w gofio lle byddwn yn dathlu ac yn cydnabod llwyddiannau rhagorol y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Rydym yn parhau i groesawu deialog agored ac onest ac rwyf wedi mwynhau fy ymweliadau diweddar ag ysgolion a cholegau ar draws Cymru. Os hoffech chi drefnu ymweliad, cysylltwch drwy lorna.turner@cbac.co.uk i wneud y trefniadau priodol.

Pob dymuniad gorau i chi yn ystod y flwyddyn academaidd, ac ar ran pawb yn CBAC, hoffwn ddiolch i chi a'ch timau am eich cefnogaeth, ymroddiad a phroffesiynoldeb parhaus.

Ian Morgan

Prif Weithredwr, CBAC