Gwneud-i-Gymru: Adlewyrchu amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn.

Gwneud-i-Gymru: Adlewyrchu amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn.

Yn ein blog diweddaraf, mae Paul Evans, Swyddog Datblygu Cymwysterau, yn amlinellu'r mesurau hollbwysig rydym yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod ein cyfres newydd o TGAU a chymwysterau perthynol yn mynd ati i ymgorffori amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn.  

Mae datblygu cyfres newydd o gymwysterau i Gymru yn dasg gyffrous ac yn gyfle i ddarparu'r sgiliau a'r wybodaeth y mae eu hangen ar ddysgwyr i ffynnu a chyrraedd eu potensial yn llawn. Gan adlewyrchu dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru, ein nod yw meithrin cynhwysiant ac ysbrydoli dysgwyr, drwy ddarparu profiad dysgu dilys. Dylai cynnwys ein cymwysterau adlewyrchu ffordd o feddwl ond hefyd ei herio – dydy hon ddim yn dasg hawdd, ond mae'n un rydym wedi'i chroesawu gyda chefnogaeth arbenigwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt. 

Cefnogi dyheadau'r Cwricwlwm newydd i Gymru  

Fel corff, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cymwysterau'n hygyrch ac yn berthnasol i ddysgwyr ar draws Cymru. Un o'n nodau yw cefnogi cynllun Llywodraeth Cymru o gael Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, felly, yn rhan o'n proses ddatblygu, rydym wedi canolbwyntio ar amrywiaeth, perthyn a chynhwysiant. 

At hynny, un o nodau eraill y Cwricwlwm i Gymru yw cefnogi dysgwyr i fod yn 'foesegol'; gyda'n cymwysterau newydd, rydym yn bwriadu helpu ein dysgwyr i fod yn ddinasyddion mwy gwybodus yng Nghymru a'r byd. Drwy ymgorffori cyfleoedd i addysgu testunau pwnc amrywiol a chynhwysol, credwn y bydd dysgwyr yn gallu ymgysylltu â thestunau cyfarwydd a heriol, a fydd yn ehangu eu dealltwriaeth a'u gwerthfawrogiad o'i gilydd, yn ogystal â gwahanol ddiwylliannau a safbwyntiau. 

Gweithio gyda'n partneriaid

Mae cydweithio wedi bod yn sylfaen i'n dull datblygu. Drwy ddefnyddio dull cyd-awduro, rydym yn ymgysylltu â nifer o arbenigwyr amrywiaeth i sicrhau bod ein cymwysterau'n cynnig cyfleoedd i gydnabod diwylliannau Cyfoethog ar draws Cymru a thu hwnt – gan hybu cynhwysiant, tegwch, a'r ymdeimlad o gael eich gwerthfawrogi hefyd.  

Yn rhan o'r dull hwn, rydym wedi cydweithio'n agos â DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol). Maen nhw wedi bod yn bartner allweddol yn y broses hon, gan roi cyngor ac arweiniad gwrthrychol ar amrywiaeth, a chynnig adborth adeiladol.  

Yn ogystal â chynnig clust i wrando ar ein syniadau, mae Rachel Clarke o DARPL, sy'n wyres falch i Betty Campbell MBE (ymgyrchydd yn y gymuned yng Nghymru a phennaeth ysgol du cyntaf Cymru), wedi darparu hyfforddiant wedi'i deilwra drwy ApexEducate i'n Tîm Datblygu Cymwysterau a thros 40 o'n Harbenigwyr Pwnc sy'n arwain y gwaith o ddatblygu ein cymwysterau. 

Roedd yr hyfforddiant yn ymdrin ag amrywiaeth o destunau, gan gynnwys pa mor hanfodol bwysig yw defnyddio dull gwrth-hiliol, mynd at wraidd braint pobl wyn yn y cwricwlwm, effaith hiliaeth ar iechyd meddwl, ac archwilio cynrychiolaeth hil a diwylliant mewn llenyddiaeth. 

O dderbyn yr hyfforddiant hwn, gall ein timau herio eu ffordd o feddwl a chymhwyso'r egwyddorion hyn yn hyderus wrth ddatblygu ein cymwysterau newydd, cyflwyno testunau newydd neu archwilio testunau cyfarwydd o safbwynt gwahanol. 

Gwrando ar ein rhanddeiliaid

Ar y cyd â gweithio mewn partneriaeth, credwn hefyd ei bod hi'n hollbwysig ystyried barn ein rhanddeiliaid yn rhan o'n proses ddatblygu. I glywed y lleisiau hyn, rydym wedi sefydlu cyfres o grwpiau rhanddeiliaid, gan gynnwys y Grŵp Cynghori Dysgwyr, Grŵp Cynghori'r Undeb a'r Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid Cyffredinol. 

Mae ein Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid Cyffredinol yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o gyrff, gan gynnwys grwpiau eiriolaeth megis Diverse Cymru, British Association of Teachers of Deaf Children and Young People, a British Dyslexia Association. Yn ogystal, mae ein Grŵp Cynghori Dysgwyr yn cynnwys aelodau o amrywiaeth o gefndiroedd ar draws Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn clywed barn a phrofiadau pobl o bob rhan o gymdeithas. 

Mae'r grwpiau hyn yn hollbwysig i ni er mwyn clywed adborth adeiladol o amrywiaeth o safbwyntiau. Mae'r trafodaethau pwysig hyn yn llywio ein gwaith datblygu a byddan nhw'n sicrhau bod ein cymwysterau'n ymgorffori amrywiaeth ehangach o feysydd pwnc a chyfleoedd dysgu. 

Ehangu meysydd pwnc  

Mae datblygu'r cymwysterau newydd hyn, gyda mwy o ffocws ar amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn wedi rhoi cyfleoedd hefyd i ni gyflwyno meysydd pwnc a thestunau newydd. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd yn ein cymwysterau presennol, lle rydym wedi cyflwyno deunyddiau newydd sy'n archwilio themâu gan gynnwys derbyn LHDTC+, anghydffurfio o ran rhywedd, mudo a dod i oed (coming-of-age). O ran ein cyfres newydd o gymwysterau, byddwn yn adeiladu ar hyn i gyflwyno testunau sy'n gwella cynrychiolaeth, lle gall dysgwyr gydnabod y gwahanol ddiwylliannau yn eu cymdeithas a dathlu natur amrywiol pob cymdeithas.  

Dim ond cipolwg yw hwn ar y gwaith eang rydym yn ei wneud i sicrhau bod ein cymwysterau'n adlewyrchu'r amrywiaeth gyfoethog sydd gennym yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r cyrff sydd wedi cefnogi ein gwaith ac edrychwn ymlaen at rannu ein cymwysterau yn y misoedd i ddod. 

Paul Evans  
Swyddog Datblygu Cymwysterau 

 


 

I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau a fydd yn arwain y gwaith o greu'r TGAU newydd.