Gweithgaredd Hanner Tymor yr Hydref

Gweithgaredd Hanner Tymor yr Hydref

Dail yr hydref yn crensian, yr awel ffres a'r lliwiau euraidd a choch. Mae tymor yr hydref yn gyfnod o ryfeddod. Gall mynd am dro bach o gwmpas y parc neu daith yn y car ar hyd y lonydd gwledig sbarduno ein synhwyrau.  

Lapiwch yn gynnes gyda'r teulu oll a gwyliwch y dirwedd yn ffrwydro'n fyw gyda gweithgarwch bywyd gwyllt. Gallwch ddianc i fyd lliwgar, i archwilio parcdiroedd, coetiroedd ac arfordiroedd. 

Ar eich teithiau, casglwch ddail o bob maint, lliw a llun i wneud y project celf a chrefft perffaith i blant ac oedolion.   

Felly, mae'r hormonau hapus yn dal i lifo ar ôl cyrraedd gartref o'ch taith gerdded – beth am barhau â hynny? Mae'n amser gwneud defnydd o'r dail a gasglwyd. Beth am roi cynnig ar y dorch hydrefol hon? 

Ffordd wych o ychwanegu fflach o liw bywiog i'ch cartref a gweithgaredd hwyliog ar gyfer y prynhawn!  

Beth am ddechrau arni... 

Bydd angen:  

  • Dail sych   
  • Glud PVA 
  • Rhuban / Cortyn 
  • Siswrn 
  • Plât Papur  

Cam 1:  

Dechreuwch drwy ddewis cymaint o liwiau, meintiau a siapiau â phosibl o'ch casgliad o ddail; bydd angen tua 20 arnoch chi ond gallwch chi ddefnyddio cymaint ag yr hoffech i roi haenau i'r dyluniad.  

Cam 2:  

Torrwch y canol o'r plât papur, gan adael border o 2 fodfedd. Gallwch wneud hyn drwy blygu'r plât yn hanner i gychwyn ar y torri. Sicrhewch eich bod hefyd yn gwneud twll bach ar ben uchaf y dorch ac yn gwthio llinyn neu rhuban drwyddo, yn barod i'w hongian.  

Mae'r rhannau hyn ychydig yn gymhleth ac mae angen siswrn miniog, felly gall fod angen cymorth neu oruchwylio ar blant ifanc.  

Cam 3:  

Gludwch eich dail ar forder y plât papur, gan sicrhau eu bod yn gorgyffwrdd ei gilydd ac yn cuddio'r plât i gyd. Ceisiwch roi dail lliwiau a siapiau gwahanol am yn ail – dyluniad hyfryd. Yna gadewch i'r cyfan orwedd yn wastad i sychu am gyfnod cyn hongian eich torch 

Ewch ati!