Fframweithiau Asesu Cymwysterau

Fframweithiau Asesu Cymwysterau – gellir defnyddio amrediad o dystiolaeth

08/03/2021

Derbyniwyd sawl cais am eglurhad o'r fframweithiau asesu a gyhoeddwyd gennym yr wythnos diwethaf. Yn adran 2 pob un o'r fframweithiau amlinellwyd y gofynion sy'n allweddol, yn ein barn ni, i ddysgwyr allu symud ymlaen. Mae’r rhain wedi’u disgrifio o ran yr hyn y dylai ymgeiswyr ymdrin ag ef ar gyfer haf 2021 yn hytrach na'r hyn y mae'n rhaid iddynt ymdrin ag ef.

Deallwn y bydd yr amharu ar yr addysgu a dysgu wedi effeithio'n wahanol ar ddysgwyr gwahanol, ond mae’n amlwg bod swm sylweddol o addysgu a dysgu wyneb-yn-wyneb wedi’i golli yn 2020/21. Darparwyd rhywfaint o enghreifftiau gennym i ddangos sut y gellid defnyddio ein cyn-bapurau, ond nid oes gofyn i'r canolfannau ddefnyddio'r rhain, gallant ddefnyddio ffurfiau dibynadwy eraill o dystiolaeth grynodol os dymunant wneud hynny.

Gair o gyngor gennym yw bod angen ymdrin mor llawn â phosibl â'r amcanion asesu i gyd. Mae angen sicrhau bod ymdriniaeth ddigonol ar draws gofynion y fanyleb a bod rhai agweddau wedi'u hystyried yn fanylach nag eraill (ynddo'i hun, ni fydd dangos tystiolaeth o gyflawniad uchel ar agwedd gul ar y fanyleb yn ddigon i gyfiawnhau gradd uchel). Y nod yw cael digon o dystiolaeth o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth pob dysgwr i allu pennu gradd briodol.

Gellir gweld y Fframweithiau Asesu Cymwysterau ac amrywiaeth o ddeunyddiau cefnogi o’n Gwefan Ddiogel.