Effaith drawsnewidiol Bagloriaeth Cymru Genedlaethol/Sylfaen

Effaith drawsnewidiol Bagloriaeth Cymru Genedlaethol/Sylfaen

Mae Sara Davies, Swyddog Pwnc Bagloriaeth Cymru Genedlaethol/Sylfaen, wedi ei throchi yn y cymhwyster ers 2008. Yma, mae'n edrych yn ôl ar ei lwyddiant a dyfodol Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.

"Mewn byd addysg sy'n datblygu’n barhaus, mae Bagloriaeth Cymru Genedlaethol/Sylfaen wedi chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol dysgwyr ifanc yng Nghymru. Cafodd y cymhwyster ei gyflwyno yn 2003 ar gyfer dysgwyr ôl-16, ei lansio yn 2008 ar gyfer dysgwyr cyn-16 a‘i ddiwygio yn 2015, ac mae wedi dod yn gonglfaen mewn addysg, gyda dros 260,000 o geisiadau ers ei lansio.

"Yn cynnwys y Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen a chymwysterau ategol, mae Bagloriaeth Cymru Genedlaethol/Sylfaen yn sefyll allan fel rhaglen gynhwysfawr sydd wedi'i chynllunio i baratoi dysgwyr ar gyfer heriau'r byd modern. Mae'r pwyslais bwriadol ar sgiliau trosglwyddadwy, fel gwaith tîm, cyfathrebu, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, yn gydnabyddiaeth o'u pwysigrwydd cynyddol yn y farchnad swyddi heddiw.

"Yr hyn sy'n gosod y cymhwyster hwn ar wahân yw ei ymrwymiad i feithrin unigolion hyddysg, sydd â'r sgiliau sydd eu hangen nid yn unig i oroesi ond i ffynnu mewn amgylcheddau amrywiol. Mae'r heriau sydd wedi'u hintegreiddio i elfen Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru yn cyflwyno dysgwyr yn fwriadol i sefyllfaoedd go iawn. Mae'r Her Menter a Chyflogadwyedd yn archwilio byd gwaith, mae'r Her Dinasyddiaeth Fyd-eang yn mynd i'r afael â materion byd-eang, ac mae'r Her y Gymuned yn canolbwyntio ar wella cymunedau lleol – strategaeth fwriadol gyda'r nod o gynhyrchu unigolion yn barod ar gyfer cymhlethdodau'r byd go iawn.

"Rydym yn ymfalchïo yn y cyfleoedd y mae'r cymhwyster wedi'u cynnig i fyfyrwyr, gan feithrin cydweithrediadau ag amrediad amrywiol o gyrff blaenllaw. Mae'r rhestr drawiadol hon yn cynnwys cyrff megis Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Dŵr Cymru, Network Rail, Comisiynydd Plant Cymru, Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, Into Film Cymru, Arch Noa, Dogs Trust, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, WRU (Undeb Rygbi Cymru), Teenage Cancer Trust,  Cymdeithas Alzheimer's, Swansea Supporters Trust, a'r cydweithrediad nodedig ers 2015 â’r project  Cymru'n Cyd-dynnu. 

"Mae'r amrediad o bartneriaethau yn adlewyrchu hyblygrwydd y cymhwyster wrth fynd i'r afael â themâu heddiw. Ar un pen o'r sbectrwm, mae cydweithio â chyrff fel Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Dŵr Cymru yn cyflwyno fyfyrwyr i faterion amgylcheddol ac ecolegol, gan arddangos eu hymrwymiad i arferion cynaliadwy. Ar yr un pryd, mae cydweithio â Chomisiynydd Plant Cymru a'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn ymchwilio i themâu cymdeithasol ac eiriolaeth, gan annog dysgwyr i gyfrannu at newid cymdeithasol cadarnhaol.

"Mae ymrwymiad y cymhwyster i fynd i'r afael â heriau cyfoes yn arbennig o amlwg yn y cydweithio ers 2015 â'r project Cymru'n Cyd-dynnu, gan fynd i'r afael ag eithafiaeth yn benodol. Mae'r fenter hon wedi cyrraedd 27,000 o ddysgwyr yn ystod y cyfnod hwn, gan danlinellu safiad rhagweithiol y cymhwyster wrth fynd i'r afael â materion o bwysigrwydd cymdeithasol gyda difrifoldeb a dyfnder sy'n mynd y tu hwnt i bynciau academaidd traddodiadol.

"Mae'r partneriaethau hyn nid yn unig yn cyfoethogi'r profiad addysgol ond hefyd yn adlewyrchu gallu'r cymhwyster i addasu i themâu amrywiol, gan sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cyflwyno i amrediad o heriau sy'n cyd-fynd â phryderon lleol a byd-eang. Trwy groesawu cydweithrediadau sy'n amrywio o gadwraeth amgylcheddol i gyfiawnder cymdeithasol, mae'r cymhwyster nid yn unig yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cymhlethdodau'r byd go iawn ond hefyd yn meithrin cenhedlaeth o arweinwyr hyddysg a ymwybodol gymdeithasol. Mae datblygu, cymhwyso ac asesu set amrywiol o sgiliau yn rhan annatod o'r broses hon, gan arfogi dysgwyr â'r galluoedd ymarferol sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r heriau hyn yn effeithiol a chyfrannu'n ystyrlon at gymdeithas.

"Gan ychwanegu at lwyddiant Bagloriaeth Cymru Genedlaethol/Sylfaen, cyflwynwyd y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru diwygiedig ym mis Medi 2023. Gall myfyrwyr ymgymryd â'r cwrs uwch yn annibynnol neu fel dilyniant o'r cwrs Cenedlaethol/Sylfaen. Mewn byd sydd wedi gweld newid digynsail, mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn cydnabod anghenion datblygol dysgwyr. Mae'r cwrs yn paratoi myfyrwyr ar gyfer byd gwaith yn y dyfodol drwy ddatblygu sgiliau mewn cynllunio a threfnu, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, creadigrwydd ac arloesedd, ac effeithiolrwydd personol. Mae 'Sgiliau Cyfannol' yn cyd-fynd ag adroddiad ymchwil Nesta, "The Future of Skills: Employment in 2030," gan bwysleisio pwysigrwydd ymwybyddiaeth gymdeithasol, cydweithio, gwreiddioldeb, gosod nodau, a gallu i addasu.

"Wrth i ni hyrwyddo llwyddiant Bagloriaeth Cymru Genedlaethol/Sylfaen, rydym hefyd yn edrych ymlaen at weld effaith barhaus Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Mae'r cymwysterau hyn yn dyst i ymrwymiad Cymru i feithrin cenhedlaeth o ddysgwyr sydd nid yn unig â gwybodaeth benodol i'r pwnc ond hefyd â'r sgiliau hanfodol sy'n angenrheidiol i ffynnu mewn byd sy'n newid yn barhaus. Mae'r daith tuag at ragoriaeth addysgol yn parhau, gyda'r gred y bydd buddsoddi mewn sgiliau heddiw yn datblygu arweinwyr yfory.”

I gael rhagor o wybodaeth am ein cymwysterau Bagloriaeth Cymru, ewch i'n tudalennau gwe pwrpasol.