
Dyma eich gwahoddiad i'n gweithdy Dysgu Cyfunol+ ar-lein
Mae'n bleser gennym gyflwyno Dysgu Cyfunol+, ein llwyfan addysgu a dysgu newydd sbon sydd wedi'i lunio i ategu'r gwaith o gyflwyno ein cymwysterau Gwneud i Gymru Ton 1 a Thon 2.
Datblygwyd Dysgu Cyfunol+ gan roi ystyriaeth i athrawon ac mae'n caniatáu i chi greu a golygu adnoddau addysgu a dysgu ar gyfer ein cymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig newydd mewn ffordd hawdd a hyblyg.
I sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o'r llwyfan, byddwn yn cynnal cyfres o weithdai ar-lein a fydd yn rhoi arweiniad manwl i chi ar ei nodweddion allweddol, fel y gallwch wneud y mwyaf o'i botensial.
Dyddiadau ac amserau'r gweithdai
- Dydd Llun 22 Medi, 4-5 pm - cyfrwng Saesneg
- Dydd Mercher 24 Medi, 4-5 pm - cyfrwng Cymraeg
- Dydd Llun 29 Medi, 4-5 pm - cyfrwng Saesneg
- Dydd Mercher 1 Hydref, 4-5 pm - cyfrwng Cymraeg
Byddwch hefyd yn cyfarfod ein Swyddogion Dysgu Digidol pwrpasol. Dylech fynd atyn nhw gyntaf am gefnogaeth drwy gydol eich taith Dysgu Cyfunol+. Bydd y gweithdy yn gorffen â sesiwn holi ac ateb, gan roi'r cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau am y llwyfan newydd.
![]() |
Dywedodd Melanie Blount, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Adnoddau Addysgol: "Mae hwn yn gyfle ardderchog i athrawon archwilio dull newydd a fydd yn gwneud teilwra adnoddau i bersonoli dysgu yn broses gyflym a syml. Rydym yn hyderus y bydd Dysgu Cyfunol+ yn helpu athrawon i gefnogi dysgwyr mewn ffyrdd deniadol ac ystyrlon." |
Os hoffech gyflwyno unrhyw gwestiynau cyn y sesiwn, anfonwch e-bost at Adnoddau@cbac.co.uk. Byddant yn cael eu hateb yn ystod y sesiwn Holi ac Ateb ar ddiwedd y gweithdy.