Dyfarnu cymwysterau yn haf 2021 yng Nghymru

Dyfarnu cymwysterau yn haf 2021 yng Nghymru

Heddiw, cyhoeddodd Panel yr Adolygiad Annibynnol a gomisiynwyd gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei argymhellion interim ar gyfer dyfarnu cymwysterau yn haf 2021. Ar yr un pryd, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru hefyd ei gyngor ynghylch dyfarnu'r cymwysterau hyn. Bydd y Gweinidog yn awr yn rhoi ystyriaeth i'r cyngor a gyflwynwyd iddi, ac yn defnyddio'r wybodaeth a gafwyd gan yr arweinwyr sy'n gweithio ar draws y sector addysg yng Nghymru. Bydd hi'n cyhoeddi ei phenderfyniad ar 10 Tachwedd.

Deallwn y sialensiau heb eu hail sy'n wynebu'r sector addysg ar hyn o bryd ac rydym yn cydnabod hefyd bod y sefyllfa bresennol yn dal i effeithio'n sylweddol ar ddysgwyr sydd i fod i gwblhau cymwysterau’r haf nesaf. Rydym yn ymrwymo i barhau i ymgysylltu a chyfathrebu â'n hysgolion, colegau, athrawon a dysgwyr. Rydym am sicrhau bod dull dyfarnu terfynol cymwysterau haf 2021 yn rhywbeth y mae modd ei gyflawni sy’n cael ei ddeall gan bawb. Gwnawn hyn ar sail penderfyniad terfynol y Gweinidog.

Edrychwn ymlaen at weithio'n brydlon ac yn bwrpasol gyda Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru ac arweinwyr a rhanddeiliaid eraill ar draws y sector addysg yng Nghymru. Mae angen rhoi system sy'n gweithio ar waith, a chydnabod ar yr un pryd y sialensiau a wynebir gan bawb.

Gwerthfawrogwn eich holl amynedd yn ystod y cyfnod hwn. I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael, cewch eich annog i danysgrifio i'n rhestr bostio i gael y manylion a'r gefnogaeth ddiweddaraf.