
Dweud eich barn am TGAU bioleg, cemeg a ffiseg
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y bydd yn ymgynghori ymhellach ar yr amrywiaeth o gymwysterau TGAU a fydd ar gael yn y dyfodol ym maes y gwyddorau, gan gynnwys bioleg, cemeg a ffiseg.
O ganlyniad i'r cyhoeddiad hwn, bydd ein cymwysterau TGAU cyfredol ym mhynciau bioleg, cemeg a ffiseg yn parhau i fod ar gael hyd at ganlyniad yr ymgynghoriad yn yr hydref 2028.
Sylwer, ni fydd hyn yn effeithio ar ddarpariaeth ein cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd yn y gwyddorau: Y Gwyddorau (Dwyradd) a Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol), a fydd ar gael i'w haddysgu o fis Medi 2026.
Cwblhewch ein harolwg heddiw
Rydym wedi lansio'r arolwg canlynol i ddeall awydd rhanddeiliaid am ddiwygiadau i'n cymwysterau TGAU gwyddorau ar wahân presennol mewn bioleg, cemeg a ffiseg. Bydd yr arolwg yn rhoi 4 opsiwn:
-
Opsiwn 1 – Diwygio Uned 3: Asesiad Ymarferol o'r cymwysterau gwyddorau ar wahân i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026
-
Opsiwn 2 – diwygio mewn dau gam. Diwygio Uned 3: Asesiad Ymarferol o'r cymwysterau gwyddorau ar wahân i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026 (fel Opsiwn 1). Yna diwygio Uned 1 ac Uned 2 i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027 ar gyfer ymgeiswyr blwyddyn 10.
-
Opsiwn 3 – Diwygio pob uned o'r cymwysterau gwyddorau ar wahân gyda'i gilydd i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027.
-
Opsiwn 4 – Peidio â diwygio’r manylebau
Byddwn yn adolygu eich ymatebion yn ogystal â chanfyddiadau o drafodaethau â rhanddeiliaid, a byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad maes o law.
Mae gennych tan 15 Hydref i gwblhau'r arolwg, y gellir ei weld yma.
Mae croeso i chi gysylltu â'n Tîm Datblygu Cymwysterau os oes gennych chi unrhyw gwestiynau: datblygucymwysterau@cbac.co.uk