Dod â dysgu yn fyw: Ein cymwysterau TGAU Ymarferol, Cynhwysol ac Ysbrydoledig newydd mewn Dawns ac Addysg Gorfforol ac Iechyd

Mae ein cyfres o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd a chymwysterau cysylltiedig yn parhau i ddatblygu'n llwyddiannus, ac mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y manylebau drafft ar gyfer yr ail don o gymwysterau bellach ar gael ar-lein. Ymhlith y rhain mae dau gymhwyster newydd cyffrous, TGAU Dawns a TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd, a fydd ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026.  

Mae Leah Maloney, un o'r Swyddogion Datblygu Cymwysterau, yn rhannu sut mae'r cymwysterau hyn wedi'u llunio gyda’r bwriad o ddatblygu sgiliau ymarferol ac ymgysylltiad y dysgwyr.  

"Mae ein cymwysterau TGAU newydd mewn Dawns ac Addysg Gorfforol ac Iechyd yn wahanol am un rheswm allweddol: maent yn rhoi pwyslais cryf ar ddysgu a chymhwyso mewn modd ymarferol. O’r adeg y bydd dysgwyr yn dechrau eu hastudiaethau, byddant yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau perfformio – gan gynyddu eu hyder a’u cymhwysedd wrth iddynt baratoi at arddangos eu gallu yn eu hasesiadau terfynol. Mae'r ffocws ymarferol hwn wedi'i gynllunio i wneud dysgu'n fwy gweithredol, diddorol ac ystyrlon.

Trwy ddatblygu'r cymwysterau, rydym wedi parhau â’n dull cyd-awduro, gan weithio'n agos gydag athrawon, dysgwyr ac arbenigwyr yn y diwydiant i lunio cyrsiau sydd nid yn unig yn ysbrydoledig, ond sydd hefyd yn berthnasol ac yn adlewyrchu ymarferion cyfredol. Rydyn ni'n hyderus bod y cymwysterau hyn yn cydbwyso dealltwriaeth ddamcaniaethol gref â chymhwysiad ymarferol — gan roi'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen ar ddysgwyr i'w cymhwyso mewn sefyllfaoedd byd go iawn.  

Dathlu dawns yn yr ystafell ddosbarth

Rydym yn hynod falch o gyhoeddi lansiad ein cymhwyster TGAU  Dawns am y tro cyntaf erioed – cymhwyster bywiog, cynhwysol ac ysbrydoledig a ddatblygwyd mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o gwmnïau dawns a choreograffwyr talentog. 

Mae'r cwrs newydd a chyffrous hwn yn cynnig cyfle i ddysgwyr archwilio sbectrwm amrywiol o ddawns, gan gynnwys amrywiaeth eang o goreograffwyr, arddulliau, genres a chyd-destunau diwylliannol. O ddawns gyfoes a dawns stryd i ddylanwadau clasurol a byd-eang, bydd dysgwyr yn ymgysylltu â gweithiau wedi’u gwneud yng Nghymru neu wedi'u hysbrydoli gan Gymru, yn ogystal â chyfraniadau pwerus gan unigolion a grwpiau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol (BAME).  

Yn y bôn, mae'r cymhwyster hwn yn gofyn am fwy na dim ond techneg – mae angen creadigrwydd, ymwybyddiaeth ddiwylliannol a mynegiant personol hefyd. Trwy amrywiaeth eang a dyfn. Trwy ehangder a dyfnder y gwaith astudio, bydd dysgwyr yn meithrin y dulliau a’r ysbrydoliaeth i ddatblygu eu coreograffi a’u perfformiadau eu hunain, gan fagu hyder, sgiliau a gwerthfawrogiad dyfnach o’r gelfyddyd ddawns. 

Canolbwyntio ar elfennau ymarferol chwaraeon, gweithgareddau corfforol, iechyd a llesiant. 

Ein cymhwyster TGAU newydd mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd sy’n parhau i fod yr agwedd fwyaf boblogaidd o’n manyleb bresennol, tra'n cyflwyno asesiadau mwy ymarferol, sy'n adlewyrchu natur esblygol y pwnc. Trwy ganolbwyntio nid yn unig ar wybodaeth, bydd dysgwyr yn dangos eu cymhwysedd mewn gweithgareddau corfforol, iechyd a llesiant.  

Fel rhan o'r newidiadau hyn, rydym wedi cyflwyno cydran Hyfforddiant Personol.  Mae'r elfen newydd hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr gymryd perchnogaeth o'u datblygiad corfforol trwy lunio a dilyn eu rhaglen hyfforddi eu hunain.  

Rydym yn credu y bydd y diweddariadau hyn yn rhoi hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddisgleirio – p'un a ydyn nhw'n angerddol am athletau, chwaraeon tîm, ffitrwydd personol, neu iechyd a llesiant. Trwy bontio theori ag ymarfer, mae ein cymhwyster TGAU diwygiedig yn annog dysgwyr i ddeall egwyddorion addysg gorfforol yn ogystal â’u byw.  

Gwella set sgiliau dysgwyr 

Er bod perfformiad ymarferol yn ffocws allweddol yn ein cymwysterau newydd, maent hefyd wedi'u cynllunio i helpu dysgwyr i ddatblygu set sgiliau ehangach sy'n ymestyn tu hwnt i'r pwnc ei hun. Trwy eu cyfraniad gweithredol, bydd dysgwyr yn meithrin sgiliau bywyd hanfodol fel gwaith tîm, cyfathrebu, arweinyddiaeth, a datrys problemau. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy hyn nid yn unig yn gwella eu profiad o fewn y cymhwyster, ond maent hefyd yn cefnogi llwyddiant ar draws pynciau eraill a datblygiad personol yn ehangach.  

Asesiadau digidol ysbrydoledig

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wneud dysgu'n fwy perthnasol, diddorol ac ysbrydoledig – a bydd ein defnydd o asesu digidol mewn Dawns ac Addysg Gorfforol ac Iechyd yn cefnogi'r uchelgais hon. Mae'r asesiadau hyn yn cynnwys ysgogiadau digidol dynamig – senarios rhyngweithiol, go iawn sydd wedi'u cynllunio i ddal sylw dysgwyr. P'un a oes angendadansoddi clip perfformiad neu ymateb i sefyllfa hyfforddi rithiol, mae dysgwyr yn cael eu herio i gymhwyso eu dealltwriaeth mewn ffyrdd ystyrlon ac ymarferol.  

Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi ein cymwysterau newydd, sydd â ffocws cryf ar ddatblygu sgiliau ymarferol, gan roi'r cyfle i ddysgwyr fod yn ymarferol, egnïol ac yn rhan lawn o'r dysgu. Ond mae yr un mor bwysig cofio bod y profiadau ymarferol hyn wedi'u seilio ar sylfaen ddamcaniaethol gadarn. Nid yn unig mae'r dull cytbwys hwn yn rhoi hwb i hyder a pherfformiad, ond hefyd yn dyfnhau gwerthfawrogiad dysgwyr am y pwnc." 

Cael y wybodaeth ddiweddaraf

I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hadran 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau.