Diweddariad pwysig ynghylch trefniadau asesu cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Ar ôl trafod â Cymwysterau Cymru, cadarnhawyd ganddynt y bydd asesiadau allanol Haf 2021 y cymwysterau canlynol yn digwydd dros 'gyfnod penodol o amser' i gyfateb i'r trefniadau sydd ar waith ar gyfer y cymwysterau cyffredinol:
5962U50-1/ 5962U60-1 |
Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori |
4963U80-1/ 4963U90-1 |
Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori |
5972UA0-1/ 5972UB0-1 |
Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau |
4973UA0-1/ 4973UB0-1 |
Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau |
Ein bwriad yw cynnal yr arholiadau hyn rhwng 17 Mai a 14 Mehefin. Byddwn yn gofyn i'r canolfannau gyflwyno sylwadau ar y cynnig hwn drwy gynnal arolwg byr ar-lein.
Cyhoeddodd Kirsty Williams ddoe (4 Ionawr 2021) na fydd ysgolion a cholegau'n ailagor tan 18 Ionawr 2021, ac eithrio i blant sy'n agored i niwed, plant gweithwyr allweddol a dysgwyr y mae angen iddynt gwblhau arholiadau neu asesiadau hanfodol. Gallwn ni gadarnhau felly bod Cymwysterau Cymru wedi cytuno y bydd arholiadau Ionawr 2021 yr unedau uchod yn digwydd yn ôl y bwriad i ddysgwyr oedd ddim yn hapus â'r radd asesu canolfannau a ddyfarnwyd yn Haf 2020 ac/neu i'r sawl sy'n barod i'w hasesu. Rhyddhawyd hysbysiad ymlaen llaw am rai o'r testunau y bydd yr arholiadau'n ymdrin â nhw er mwyn cefnogi dysgwyr wrth iddynt baratoi'n derfynol ar gyfer arholiadau Ionawr. Mae'r wybodaeth hon i'w gweld ar ein gwefan ddiogel yn yr adran Adnoddau/Rhyddhau Ymlaen Llaw.
Bydd asesiadau di-arholiad yn dal i fod yn rhan o'r drefn asesu yn Haf 2021. Cyhoeddwyd addasiadau i'r asesiadau di-arholiad ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru. Dylai canolfannau sicrhau eu bod yn cyfeirio at y wybodaeth ddiweddaraf am yr addasiadau hyn.
Rydym yn ymwybodol y gall y penderfyniadau diweddar hyn effeithio ar eich bwriadau cofrestru. Gallwn gadarnhau na fydd rhaid talu ffioedd hwyr a ffioedd diwygio ar gyfer cyfres Ionawr. Gall canolfannau ddiwygio eu cofrestriadau hyd at a gan gynnwys 20 Ionawr 2021 heb orfod talu ffioedd ychwanegol. Codir y ffi gofrestru safonol ar gyfer unrhyw ymgeisydd â chofrestriad ar 21 Ionawr 2021.