
Diweddariad: Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi diweddariad am gymwysterau TGAU ym maes y gwyddorau
Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y bydd yn ymgynghori ymhellach ar y dewis o gymwysterau TGAU a fydd ar gael yn y dyfodol ym maes y gwyddorau (gan gynnwys bioleg, cemeg a ffiseg).
O ganlyniad i'r cyhoeddiad hwn, bydd ein cymwysterau TGAU cyfredol ym mhynciau bioleg, cemeg a ffiseg yn parhau i fod ar gael hyd at ganlyniad yr ymgynghoriad yn yr hydref 2028.
Sylwer, ni fydd hyn yn effeithio ar ddarpariaeth ein cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd yn y gwyddorau: Y Gwyddorau (Dwyradd) a Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol), a fydd ar gael i'w haddysgu o fis Medi 2026.
Y camau nesaf
Ar ôl trafod â Cymwysterau Cymru, rydym yn ystyried ar hyn o bryd pa newidiadau i'w gwneud, os o gwbl, i'n TGAU presennol mewn bioleg, cemeg a ffiseg. Bydd arolwg yn agor ar 30 Medi i gasglu adborth gan randdeiliaid i'w ddefnyddio i lywio ein penderfyniad.
Bydd gwybodaeth bellach ar gael maes o law, ond cofiwch wneud yn siŵr eich bod wedi tanysgrifio i'n rhestr bostio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch neges e-bost at datblygucymwysterau@cbac.co.uk