Diweddariad Coronafeirws: Ymgynghoriad Ofqual ar asesu a graddio cymwysterau galwedigaethol a thechnegol
Heddiw, cyhoeddodd Ofqual ganfyddiadau ei ymgynghoriad ar asesu a graddio cymwysterau galwedigaethol, technegol a chymwysterau eraill yn dilyn canslo asesiadau'r haf oherwydd y pandemig COVID-19.
Cadarnhaodd Ofqual y canlynol:
- dylai dysgwyr, yn achos cymwysterau a ddefnyddir yn bennaf er mwyn symud i addysg bellach neu uwch, yn unol â pholisi'r llywodraeth, ac yn yr un modd â'r TGAU, UG a Safon Uwch, dderbyn canlyniadau wedi'u cyfrifo ar gyfer y cymwysterau hyn, lle bynnag y bo hynny'n bosibl
- bydd sefydliadau dyfarnu, yn achos cymwysterau a ddefnyddir yn bennaf i ddangos cymhwysedd galwedigaethol, yn addasu'r model asesu neu ddarparu er mwyn gallu cwblhau asesiadau dan y cyfyngiadau iechyd presennol
- os yw pwrpas y cymwysterau'n gymysg, gall ymgeiswyr dderbyn naill ai gradd wedi'i chyfrifo neu dyfernir y cymhwyster ar sail asesiad wedi'i addasu. Bydd angen i sefydliadau dyfarnu benderfynu ar hyn ar sail prif ddiben y cymhwyster a'r dull sy'n fwyaf priodol o ran darparu canlyniad dilys
- y seiliau i'w defnyddio gan ganolfannau ac/neu ymgeiswyr i apelio eu graddau.
Mae’r adroddiad yn llawn i'w weld ar wefan Ofqual.
Byddwn yn cydweithio â'n canolfannau i sicrhau ein bod yn dyfarnu graddau cymwysterau'n unol â phenderfyniadau Ofqual.
Dyfernir y cymwysterau galwedigaethol canlynol ar sail graddau asesu canolfannau:
- Tystysgrifau Lefel Mynediad
- Lefel 1/2 Dyfarniadau a Thystysgrifau Galwedigaethol
- Lefel 1 a Lefel 2 Tystysgrifau mewn Lladin
- Lefel 2 Tystysgrif mewn Mathemateg Ychwanegol
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
- Lefel 3 Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol
- Llwybrau Iaith ar Waith ac Iaith Gwaith
- Unedau Ieithoedd
Mae canllawiau cynhwysfawr i athrawon ar sut i gwblhau eu graddau asesu canolfannau'n gywir i'w gweld ar ein Gwefan Ddiogel.
Gwerthfawrogwn eich amynedd a'ch dealltwriaeth wrth i'r cyfnod heriol hwn barhau. Mae ein timau'n dal i fod ar gael i'ch cefnogi chi a'ch dysgwyr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'n timau.